Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrifianellau budd-daliadau

Os nad ydych yn siŵr a ydych chi'n gymwys ar gyfer unrhyw fudd-daliadau gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i wirio.

Defnyddiwch gyfrifiannell annibynnol i ganfod y canlynol:

  • pa fudd-daliadau y gallech eu derbyn
  • sut i hawlio
  • sut yr effeithir ar eich budd-daliadau os ydych yn dechrau gweithio

Mae'r gwasanaethau hyn yn ddienw a gallwch eu defnyddio am ddim.

Cyfrifianellau

Bydd angen y pethau hyn arnoch chi

Bydd angen gwybodaeth gywir arnoch am y canlynol:

  • cynilion
  • incwm, gan gynnwys partneriaid (o slipiau cyflog er enghraifft)
  • budd-daliadau a phensiynau presennol (gan gynnwys unrhyw un sy'n byw gyda chi)
  • treuliau (megis rhent, morgais, taliadau gofal plant)
  • bil treth y cyngor

Pwy na all eu defnyddio

Ni allwch ddefnyddio'r cyfrifianellau os ydych yn iau na 18 oed, ac ni fyddant yn rhoi canlyniadau cywir os ydych yn un o'r canlynol:

  • carcharor
  • myfyriwr
  • ddim yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
  • ar streic
  • yn byw y tu allan i'r DU
  • yn byw'n barhaol mewn gofal preswyl neu gartref nyrsio
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2021