Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorfodi parcio sifil

Rydym yn gyfrifol am fonitro a gorfodi rheoliadau parcio i sicrhau diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr. Byddwn yn rhoi dirwyon (hysbysiadau o dâl cosb) ar gyfer unrhyw gerbydau nad ydynt wedi'u parcio'n gyfreithlon neu'n ddiogel.

Mae parcio'n groes i'r cyfyngiadau parcio'n achosi tagfeydd ac anghyfleustra i gerddwyr, beicwyr, pobl anabl, cerbydau dosbarthu, y gwasanaethau brys a rhwydweithiau trafnidiaeth lleol. Gall hefyd fod yn beryglus. Os yw'ch car yn peri perygl diogelwch, yn creu tagfa neu rwystr, gall yr heddlu ei symud. Dangosir pob cyfyngiad parcio gan arwyddion a marciau ar y ffordd.

 

Ein cyfrifoldebau

Mae Dinas a Sir Abertawe yn gyfrifol am orfodi:

  • llinellau melyn
  • cilfannau parcio i breswylwyr
  • arosfannau bysus a chlirffyrdd
  • cilfannau parcio i bobl anabl
  • cilfannau talu ac arddangos
  • meysydd parcio'r cyngor
  • rhengoedd tacsis
  • croesfannau cerddwyr a marciau igam-ogam
  • ardaloedd parcio a reolir
  • cyrbau isel (croesfannau cerbydau)

Mae'r Heddlu'n gyfrifol am:

  • rhwystrau ar y briffordd
  • cyrbau isel (croesfannau cerbydau) a lle ceir rhwystrau
  • parcio ar y palmant
  • troseddau traffig sy'n symud

 

Sut rydym yn gorfodi rheoliadau parcio

Swyddogion gorfodi parcio sifil

Mae ein swyddogion yn ymweld â gwahanol ardaloedd yn Abertawe ar droed i wirio bod preswylwyr ac ymwelwyr yn parcio'n gyfreithlon ac yn ddiogel i bob defnyddiwr ffordd a phalmant. Unwaith y bydd Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) wedi'i gyflwyno, ni all y swyddog ei dynnu yn ôl.

Mae gan y swyddogion swydd anodd ond pwysig ac er ein bod yn gwerthfawrogi nad oes unrhyw un eisiau PCN, mae'n bwysig bod y staff hyn yn cael eu trin â chwrteisi a pharch. Gall unrhyw un sy'n ymddwyn yn ymosodol tuag at ein swyddogion gael ei adrodd i'r Heddlu.

Os oes gennych adborth ar ymddygiad swyddog gorfodi parcio, rhowch wybod i ni: Sylwadau, canmoliaeth, cwynion

Car camera

Mae car camera Cyngor Abertawe wedi'i farcio'n glir. Mae ganddo gamera a thechnoleg adnabod rhif cofrestru awtomatig er mwyn cofnodi unrhyw dramgwyddau parcio.

Bydd y car camera'n gweithredu 7 niwrnod yr wythnos yn amodol ar anghenion busnes.

 

Cyfyngiadau parcio

Mae marciau ffordd megis llinellau melyn, cilfannau llwytho, safleoedd bws a pharthau preswylwyr yn nodi bod cyfyngiad parcio'n berthnasol. Bydd arwydd yn egluro'r cyfyngiadau parcio ger y marciau ffordd. Cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod ei gerbyd wedi'i barcio'n gywir ac nad yw'n achosi unrhyw rwystrau. Os ydych wedi parcio'ch cerbyd yn gywir, ni ddylech dderbyn hysbysiadau o gosb benodol.

Cyfyngiadau aros

Mae cyfyngiadau aros yn berthnasol i'r ffordd gerbydau, y palmant a'r ymyl.

Mae llinellau melyn dwbl ar y ffordd yn golygu na allwch barcio (nac aros yn y cerbyd) yn yr ardal hon ar unrhyw adeg (os yw'r cyfyngiadau'n dymhorol, caiff hyn ei ddangos ar arwyddion gerllaw). Ni ddylai unrhyw ran o olwyn eich cerbyd fod ar y llinellau melyn dwbl. Caniateir i chi aros dros dro ar linellau melyn dwbl i ddadlwytho neu ollwng teithwyr (gweler cyfyngiadau llwytho hefyd). Ar ôl i chi wneud hyn, dylech symud eich cerbyd ar unwaith.

Sylwer bod llinellau melyn dwbl yn golygu dim aros, hyd yn oed os nad oes arwyddion unionsyth yn yr ardal. 

Mae un llinell felen ar y ffordd yn dangos cyfyngiad sy'n gymwys am ran o'r diwrnod a/neu rai diwrnodau'r wythnos. Caiff amser y cyfyngiad ei ddangos ar arwydd ger ymyl y ffordd neu ar yr arwydd mynediad i'r parthau parcio a reolir *.

Mae llinellau dotiog gwyn ar y ffordd yn dangos ardal lle caniateir parcio yn unol â'r cyfyngiadau a ddangosir ar yr arwyddion gerllaw. Gall hyn gynnwys y cyfnod hwyaf y gellir parcio (er enghraifft 2 awr), yr amserau a/neu ddiwrnodau parcio a ganiateir*, y cyfnod dychwelyd a ganiateir a/neu'r drwydded ofynnol. I barcio'n gywir, dylai holl olwynion y cerbyd fod y tu mewn i'r marciau yn y gilfan.

* Os na ddangosir diwrnodau ar yr arwyddion, mae'r cyfyngiadau mewn grym bob dydd, gan gynnwys dydd Sul a gwyliau banc. Os dangosir bod diwrnodau'r cyfyngiad yn cynnwys diwrnodau'r wythnos, mae'r cyfyngiad yn berthnasol i wyliau banc oni bai bod yr arwyddion yn nodi fel arall.

Cyfyngiadau llwytho

Mae marciau melyn ar ymyl y palmant neu ar ymyl y ffordd gerbydau yn golygu ni chaniateir llwytho a dadlwytho.

Mae bar melyn unigol yn golygu na chaniateir llwytho ar yr amserau a ddangosir ar yr arwyddion cyfagos (mae'r termau a ddefnyddir ar yr arwyddion yr un peth â'r rhai a eglurwyd uchod ar gyfer cyfyngiadau aros).

Mae dau far melyn yn golygu na chaniateir llwytho ar unrhyw adeg.

Fel arfer, caiff cilfannau llwytho eu marcio ar y ffordd ac fe'u dangosir ar arwyddion. Ni allwch aros yn yr ardaloedd hyn oni bai eich bod yn llwytho neu'n dadlwytho.

Marciau ysgol - cadwch yn glir

Ni ddylech aros, parcio na chodi neu ollwng teithwyr ar ardaloedd a nodir gan farciau ysgol cadwch yn glir.

Cyfyngiadau eraill

Llywodraethir parcio gan reolau 238-252 Rheolau'r Ffordd Fawr. Mae grym y gyfraith yn berthnasol i'r rheolau a gynhwysir yn Rheolau'r Ffordd Fawr ac maent yn berthnasol i yrwyr pob cerbyd a'r teithwyr ynddynt, ac i feicwyr a cherddwyr. Cyfrifoldeb yr holl yrwyr yw bod yn gyfarwydd â Rheolau'r Ffordd Fawr ac ailgyfarwyddo â hwy.

 

Sut i osgoi derbyn hysbysiad o dâl cosb

Dylech:

  • barcio'n ddiogel
  • parcio yn y mannau a ddarperir
  • edrychwch ar yr arwyddion am gyfyngiadau amser, gall y rhain amrywio. Sylwer, nid yw'r arwyddion bob amser yn agos os yw'r ardal yn rhan o Barth Parcio a Reolir  
  • gadael o fewn y cyfyngiad amser
  • defnyddio ac arddangos eich bathodyn person anabl fel y nodir yn y llyfryn bathodyn glas
  • llwytho a dadlwytho mor gyflym â phosib
  • edrych ar y marciau ffordd cyn parcio
  • darllen rheolau'r ffordd fawr i'ch atgoffa o ystyr y marciau
  • bod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau sy'n gymwys ar gyfer y briffordd gyfan, gan gynnwys ymylon a phalmentydd
  • arddangos y tocyn talu ac arddangos yn gywir

Ni ddylech:

  • barcio ar linellau melyn
  • achosi rhwystr
  • parcio mewn safle bws neu ar glirffyrdd, hyd yn oed i ollwng pobl
  • parcio ar linellau igam-ogam
  • parcio neu aros mewn rhengoedd tacsis. Mae parthau halio ymaith yn gymwys ym mhob rheng dacsis

 

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

Gallwn ond gorfodi cyfyngiad parcio os oes Gorchymyn Rheoleiddio Traffig dilys (TRO) ar waith. Gellir gweld TROau dan y Llyfrgell TRO ar wefan y Tribiwnlys Cosbau Traffig. Sylwer y gall TROau newydd eu cyflwyno gymryd ychydig o amser i ymddangos yn y llyfrgell.

Close Dewis iaith