Dirwyon a thocynnau parcio
Y term swyddogol am docyn neu ddirwy parcio yw 'hysbysiad o dâl cosb' neu 'PCN' yn fyr. Rhoddir PCN ar gyfer parcio'n anghyfreithlon.
Rydym wedi cael gwybod am negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at aelodau o'r cyhoedd yn awgrymu bod gan y derbynnydd ddirwy parcio nas talwyd ac yna'n gofyn am daliad ar gyfer yr Hysbysiad o Dâl Cosb.
Nid ydym yn anfon negeseuon testun at y cyhoedd mewn perthynas â Hysbysiadau o Dâl Cosb ac rydym yn annog unrhyw un sy'n derbyn neges destun o'r fath i'w hanwybyddu, i beidio â chlicio ar unrhyw ddolen yn y neges destun ac i drin y neges fel sgam. Anfonir yr holl ohebiaeth swyddogol mewn perthynas â Hysbysiadau o Dâl Cosb drwy e-bost neu lythyr.
Byddwch yn wyliadwrus.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am hysbysiadau o dâl cosb, e-bostiwch meysydd.parcio@abertawe.gov.uk. Ni chaiff hwn ei drin fel apêl.
Wedi newid cyfeiriad?
Os ydych wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar, bydd angen i chi ddiweddaru'r cyfeiriad yn eich llyfr cofnodion. Gallwch newid eich cyfeiriad yn llyfr cofnodion eich cerbyd (V5C) (Yn agor ffenestr newydd) ar wefan GOV.UK.