Cymorth Ariannol Men's Sheds 2024 / 2025
Mae cyllid ar gael ar gyfer datblygu Men's Sheds presennol a rhai newydd yn Abertawe.
I gydnabod y wledd o sgiliau a phrofiad sy'n bodoli o fewn cymunedau, sy'n bodoli o fewn cymunedau, ac effaith gadarnhaol Men's Sheds ar iechyd, lles a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, hoffai Cyngor Abertawe gynnig cymorth ariannol tuag at eu datblygiad pellach.
Grwpiau neu fentrau cymdeithasol yw 'Men's Sheds' (neu Women's Sheds) a sefydlwyd mewn cymunedau lleol, at ddiben rhyngweithio cymdeithasol a hyrwyddo lles cadarnhaol, maent yn cael eu hunan-reoli a'u hunan-gefnogi. Mae sut y mae pob sied unigol yn edrych, a'r gweithgareddau a gynhelir y tu mewn iddynt, yn dibynnu'n gyfan gwbl ar sgiliau a diddordebau'r grŵp. Gellir dod o hyd i ragor i wybodaeth am Men's Sheds yma: https://www.mensshedscymru.co.uk/ a https://menssheds.org.uk/
Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais?
Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rheini ag amcanion elusennol a sefydliadau nid er elw preifat.
Blaenoriaethau'r gronfa
Datblygiad pellach o Men's Sheds presennol a chefnogi sefydlu Men's Sheds newydd yn Abertawe.
Sut i wneud cais
Cwblhewch y ffurflen gais atodedig ac cwblhewch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol. Gall peidio â chyflwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.
Lefelau ariannu
Cyllid cyfalaf / refeniw.
Dyrennir cyfanswm o £25,000 a chaiff pob cais ei asesu ar ei haeddiannau. Does dim isafswm neu uchafswm wedi'i osod ar gyfer ceisiadau, ond rhagwelir y bydd grantiau cyfartalog gwerth £1,750.
E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno.
Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2025.
Dyddiadau cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 8 Gorffennaf 2024.
Meini prawf y cais a'r asesiad
Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:
- Statws sefydliadol amcanion elusennol (C2).
- Y prosiect a'r effaith arfaethedig (C3, C4 a C5).
- Dadansoddiad ariannol llawn o'r arian y cyflwynwyd cais amdano (C6).