Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor a chefnogaeth bellach ar gyfer busnesau

Manylion sefydliadau eraill a all helpu eich busnes, o gefnogaeth gyffredinol a rhwydweithio i'r Gymraeg.

 

Awr gymorth Busnes Abertawe

Bob mis bydd awr gymorth Busnes Abertawe yn darparu sesiwn hyfforddi gryno ar bwnc busnes allweddol. Bydd y sesiynau am ddim ar-lein yn cael eu darparu gan arbenigwr lleol a byddant yn eich galluogi i gysylltu â busnesau lleol eraill. Mae'r papurau briffio â ffocws yn darparu dull cyflwyno sy'n caniatáu i'r hyn rydych wedi'i ddysgu gael ei roi ar waith ar unwaith.

Darganfyddwch pryd mae ein sesiwn nesaf a chofrestrwch (eventbrite)

 

Cefnogaeth gyffredinol

Busnes Cymru

Gwasanaeth arbennig sy'n darparu cefnogaeth i'r rheini sy'n cychwyn, yn cynnal neu'n ehangu eu busnes yng Nghymru yw Busnes Cymru. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys darparu mynediad at gyllid, marchnata, hyfforddiant ac arloesedd. Gellir darparu'r cymorth drwy amrywiaeth o lwyfannau gan gynnwys dros y ffôn ac wyneb yn wyneb drwy gyfres o weithdai a digwyddiadau.

Canolfan Cydweithredol Cymru

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth i fentrau cymdeithasol. P'un a ydych yn ystyried dechrau menter gymdeithasol newydd neu rydych wedi'ch sefydlu ac yn dymuno tyfu, mae cymorth a chyngor am ddim ar gael.

Swansea Business Improvement District (BID)

Mae BID Abertawe yn cynrychioli oddeutu 800 o fusnesau yng nghanol dinas Abertawe i ddarparu gwasanaethau gan wneud yr ardal yn lle gwell i siopa, astudio, aros, gwneud busnes ac ymweld ag ef.

Cyflwynir hyn yn unol â thair thema allweddol:

  • Croesawu a gwella - gweithio gyda phartneriaid i wella edrychiad cyffredinol yr ardal BID, gan wella pa mor groesawgar yw'r ardal i ymwelwyr a sicrhau bod canol dinas Abertawe'n parhau i fod yn ddiogel ac yn groesawgar.  
  • Hyrwyddo a chefnogi - parhau i hyrwyddo'r busnesau a chanol y ddinas i ymwelwyr a phreswylwyr er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant yng nghanol y ddinas
  • Cynrychioli a dylanwadu - gweithredu fel hyrwyddwr dros anghenion busnes o ran materion lleol fel darparu gwasanaethau'r cyngor, isadeiledd a gwaith ailddatblygu/adfywio cyffrous yr ardal dan arweiniad partner strategol allweddol BID, Cyngor Abertawe.

Rhwydweithio

Mae rhwydweithio busnes yn elfen bwysig o dyfu eich busnes, ehangu eich cadwyni cyflenwi a chwrdd â darpar gleientiaid newydd.

Mae gan Abertawe a'r cyffiniau ystod eang o grwpiau lleol y mae llawer ohonynt yn darparu ar gyfer unigolion neu fathau penodol o fusnes. 

4theRegion

Mae 4theRegion yn gynghrair o bobl, busnesau a sefydliadau ar draws de-orllewin Cymru, sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r economi leol. Mae'r sefydliad yn cysylltu pobl, yn rhannu newyddion da ac yn galluogi cydweithio, drwy ein fforymau, digwyddiadau, prosiectau a chyfathrebu.

Rhwydweithio Busnes Rhyngwladol (BNI)

Rhwydwaith busnes unigryw yw BNI gyda'r nod o helpu busnesau ac unigolion i dyfu. Ar hyn o bryd mae tair pennod BNI sefydledig yn Abertawe:

  1. Pennod BNI y Glannau
  2. Pennod BNI Dylan
  3. Pennod BNI Liberty

Siambrau Cymru

Yn gysylltiedig â Siambr Prydain, mae Siambrau Cymru yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i fusnesau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymorth rhwydweithio, hyfforddiant a busnes.

Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)

Yn ogystal â bod yn sefydliad cenedlaethol, mae Ffederasiwn Busnesau Bach hefyd yn darparu rhwydwaith lleol yng Nghymru sy'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymorth ar gyfer busnesau lleol.

Clwb Busnes Bae Abertawe

Nod Clwb Busnes Bae Abertawe yw ysgogi ffyniant ym Mae Abertawe drwy annog y gymuned fusnes i gefnogi ei gilydd a thyfu. Mae'r Clwb Busnes yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd ac yn darparu fforwm i fusnesau yn yr ardal leol gydweithio.

 

Y Gymraeg

Helo Blod

Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud byd o wahaniaeth. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyfieithu a chyngor Cymraeg cyflym a chyfeillgar.

Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 o eiriau i'r Gymraeg y mis ar gyfer eich busnes, yn rhad ac am ddim. Gall y gwasanaeth hefyd wirio 1,000 o eiriau'r flwyddyn am ddim, felly gallwch gael tawelwch meddwl bod y deunyddiau rydych chi'n eu cynhyrchu yn Gymraeg yn gywir. Ar ôl cofrestru, mae'r gwasanaeth ar gael i'w gyrchu ar-lein.

Close Dewis iaith