Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymwysterau ac opsiynau gyrfa

Mae Gofal Cwmdeithasol Cymru a Sgiliau'n Weithgar yn darparu gwybodaeth am y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Ceir rhestr fanwl o gymwysterau Gofal Cwmdeithasol Cymru a Sgiliau'n Weithgar (Yn agor ffenestr newydd) perhnasol.

Mae sawl gwahanol ffordd o ennill cymhwyster gofal plant neu waith chwarae, gan gynnwys hyfforddi mewn cyflogaeth, mynd i'r coleg neu drwy Ganolfannau Dysgu o Bell neu Ddysgu Gydol Oes.

Efallai yr hoffech astudio'r cwrs yn amser llawn neu'n rhan-amser, gan ddibynnu ar eich amgylchuiadau.

Gallai cyrsiau amser llawn roi cyfle i fyfyrwyr fynd allan i'r gweithle ac felly eu galluogi i ymarfer yr hyn y maent wedi'i ddysgu.  Mae hefyd yn caniatau i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol o weithio ochr yn ochr a staff cymwys a phlant o oedrannau gwahanol sy'n berthnasol i'r cwrs.

Mae cyrsiau rhan-amser yn cynnig yr hyblygrwydd i fyfyrwyr barhau neu ddechrau cyflogaeth wrth gwblhau cymhwyster gofal plant.  Efallai y bydd rhaid i fyfyrwyr fynd i'r coleg am rai oriau bob wythnos, fel arfer gyda'r nos.

Am fwy o wybodaeth a chyngor am ba gwrs fyddai arau i chi, cysylltwch a'ch coleg lleol, Gyrfa Cymru (Yn agor ffenestr newydd) neu Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD).

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) Abertawe yn cynnig cyrsiau gan gynnwys:

  • Cymorth Cyntaf i Warchodwyr Plant
  • Cyfoethogi Chwarae i Blant
  • Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
  • Trin a Llaw
  • Datblygiad y Plentyn
  • Amddiffyn Plant
  • Rheoli a Gwerthawrogi Amrywiaeth
  • Yr Elfen Fusnes o Ofal Plant
  • Hylendid Bwyd Sylfaenol
  • Cymraeg
  • Y Cyfnod Sylfaen
  • Cyfle Cyfartal
  • Arddangosfeydd Rhyngweithiol.

Hefyd, mae nifer o sefydliadau yn Ninas a Sir Abertawe sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddiant, gan gynnwys:

  • Cymdeithas Darparwyr Cyn-oed Cymru
  • Mudiad Meithrin
  • Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs
  • PACEY Cymru.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD).

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Gorffenaf 2021