Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy - Grant Gordewdra
Gall lleoliadau fel lleoliadau blynyddoedd cynnar sydd wedi cofrestru ac sy'n gweithio tuag at neu'n cynnal unedau neu sydd wedi cyflawni dyfarniad Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy cyfan wneud cais am y grant hwn.
Un cais fesul lleoliad.
Gall lleoliadau sy'n barod i ymuno â'r cynllun a dechrau arno hefyd wneud cais.
Pwrpas y grant yw cefnogi lleoliadau i gyflymu'r broses o roi mesurau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i atal gordewdra ymhlith plant cyn oed ysgol a fesurir gan y rhaglen mesur plant (Cymru). Rhaglen Mesur Plant - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales).
- Cynyddu nifer yr oriau a roddir i weithgarwch corfforol awyr agored i sicrhau bod plant yn cynllunio ac yn datblygu eu chwarae a'u diddordebau.
- Sicrhau bod meincnodau o fewn y Wobr CCYIaCh yn cael eu bodloni e.e. Maeth ac Iechyd y Geg.
- Darparu cyfleoedd i blant gynllunio o pharatoi eu prydau a byrbrydau maethlon eu hunain yn ddiogel.
- Galluogi plant i gael gafael ar ddŵr / llaeth ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod.
- Hyrwyddo cyngor Iechyd Cyhoeddus i deuluoedd.
- Hyrwyddo cyngor Iechyd Cyhoeddus i ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar.
Cyllid sydd ar gael
Mae uchafswm o £200 ar gael fesul lleoliad.
- Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) os oes angen cefnogaeth arnoch ynghylch sut i ddefnyddio'r grant ar gyfer eich lleoliad.
- Mae'r holl gyllid yn berthnasol am un flwyddyn yn unig, a rhaid ei wario erbyn 31 Mawrth 2025. Bydd Adran Gyllid Dinas a Sir Abertawe yn archwilio'r cyllid yn ystod y prosiect ac ar ei ôl.
- Rhaid datgan unrhyw gyllid dros ben cyn gynted ag y gwyddoch amdano er mwyn ei ailglustnodi.
- Ar ddiwedd eich prosiect mae'n rhaid i chi hysbysu'ch Asesydd CCYIaCh am y canlyniad a gwblhawydd drwy e-bost, a rhaid i'r holl gyfrifon gynnwys tystiolaeth Iawn o wariant, gyda derbynebau. Caiff hyn ei nodi ar ffurf datganiad o wariant, a fydd yn cael ei anfon atoch erbyn diwedd y flwyddyn.
Monitro
- Bydd yr holl brosiectau a ariennir yn destun gwiriadau sicrhau ansawdd yn ystod CCYIaCh neu ymweliadau Byrbrydau Aur.
Gofynion cyflwyno
- Rhaid i brosiectau ddangos ymrwymiad i'r Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy, p'un a ydynt wedi'i gwblhau, yn gweithio tuag ato neu'n newydd i'r cynllun.
- Mae'n rhaid bod gan brosiectau Dystysgrifau Hylendid Bwyd Lefel 2 addas a dilys.
- Mae'n rhaid i brosiectau arddangos ymrwymiad i Hawliau Plant gan sicrhau y gwrandeiwr ar blant, a bod plant yn gallu cymryd rhan a gwneud eu penderfyniadau eu hunain.
- Rhaid i brosiectau ddangos ymrwymiad i Gyfle Cyfartal ym mhob elfen o'u harfer.
- Rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr perthnasol sy'n cymryd rhan yn y prosiect fod wedi cael gwiriad manwl cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Mae'n rhaid i brosiectau gydymffurfio â gofynion y GDPR (Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol).
- Mae'n rhaid i leoliadau weithredu o fewn gofynion cofrestru AGC lle bo'n berthnasol.
Mae'r Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy yn ceisio cefnogi lleoliadau i gyflawni safonau uchel i ddarparu Gofal Plant sy'n bodloni anghenion iechyd, maeth a lles plant gan gynnwys rheoli amgylchedd diogel i bawb. Mae'r cynllun yn cefnogi lleoliadau i ystyried a darparu cyfleoedd i blant ddatblygu sgiliau, darparu amgylchedd sy'n eu galluogi i ymarfer sgiliau ac arwain eu cyfleoedd chwarae eu hunain.
Dyddiad cau - dydd Gwener 20 Medi 2024.