Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynaeafu cregyn bysgod

Mae cocos a chregyn gleision yn folysgiaid cregyn deuglawr a elwir yn gregynbysgod sy'n bwydo drwy hidlo'u bwyd o'r dŵr sy'n gartref iddynt.

Os ydynt yn byw mewn ardal sydd wedi'i llygru gan garthion neu sydd â ffurf wenwynig o flŵm algaidd, gall y cregynbysgod gronni bacteria neu firysau a hyd yn oed gwenwynau gan yr algau. Gall afiechydon megis gastroenteritis a hepatitis ddeillio o fwyta cregynbysgod halogedig tra gall gwenwyno gan docsinau algaidd megis gwenwyn parlysol pysgod cregyn a gwenwyn diaretig pysgod cregyn achosi salwch difrifol.

Er mwyn rheoli'r perygl o salwch, rhaid i bysgod cregyn sydd ar werth darddu o ardal gynhyrchu ddosbarthedig. Dosberthir ardaloedd fesul rhywogaeth yn ôl graddfa'r halogiad. Mae hyn yn seiliedig ar fonitro halogi ysgarthol yn y pysgod cregyn. Pysgod cregyn o ddyfroedd Dosbarth A yn unig sy'n gallu cael eu gwerthu'n uniongyrchol ar y farchnad. Mae'n rhaid i bysgod cregyn o ddyfroedd eraill gael eu prosesu ymhellach cyn cael eu gwerthu.

Mae'r ardaloedd dosbarthedig hyn sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cynaeafu cregynbysgod yn fasnachol, yn cael eu profi'n rheolaidd gan yr awdurdod lleol. Anfonir samplau i Ganolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd ac Acwafeithrin (CEFAS) yn Weymouth, sy'n coladu'r canlyniadau ac yn categoreiddio'r gwelyau.

Dosberthir gwelyau cregynbysgod yn ôl lefel y bacteria E.coli a geir yng nghnawd y cregynbysgod. Cyhoeddir rhestr ddiweddaraf (Yn agor ffenestr newydd) o ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu ar wefan CEFAS (gweler Moryd Llwchwr). Mae'r rhestr wedi'i rhannu yn ôl ardaloedd awdurdodau lleol  ac mae'n darparu manylion yr ardaloedd cynhyrchu a chynaeafu cregynbysgod presennol.

Os yw'r canlyniadau samplu ar gyfer y naill neu'r llall o'r rhain yn uwch na'r safonau derbyniol a bennir mewn deddfwriaeth, cyflwynir hysbysiadau cau dros dro. Mae'r rhain yn gwahardd cynaeafu pysgod cregyn ac fe'u defnyddir pan fydd perygl i iechyd cyhoeddus.

Ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu ar hyn o bryd yn Ninas a Sir Abertawe 1
Ardal gynhyrchuRhywogaethEnw'r safleStatws y gwely
Moryd Llwchwr (De)CocosDe-ddwyrainAr agor
Morfa WhitfordCocosWhitfordAr agor
Morfa WhitfordCregyn gleisionWhitfordAr agor

Cyngor Sir Gâr sy'n gyfrifol am ardaloedd ar ochr ogleddol sianel llanw isel afon Llwchwr.

Daw'r mapiau canlynol o wefan CEFAS (Yn agor ffenestr newydd) ac maent yn dangos y gwelyau cocos a chregyn gleision dosbarthedig ym Moryd Burry.

Map of classified cockle beds within the Burry Inlet from CEFAS
 
Map of classified mussel beds within the Burry Inlet from CEFAS

Olrheiniadwyedd cregynbysgod

Er mwyn sicrhau olrheiniadwyedd y cynnyrch, mae angen dogfen gofrestru ar bob llwyth o gregynbysgod byw wrth iddynt gael eu cludo o'r ardal gynhyrchu ble y'u casglwyd i'r ganolfan anfon neu buro lle cânt eu prosesu.

Cysylltwch â ni am ddogfennau cofrestru os hoffech gasglu cregynbysgod o ardal gynhyrchu ddosbarthedig yn Ninas a Sir Abertawe.

Sylwer bod angen trwydded i gasglu cocos yn Moryd Burry. Mae hyn yn dod o dan orchymyn rheoleiddio dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (Yn agor ffenestr newydd).