Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth cynghori cyn cyflwyno cais

Rydym yn annog ac yn croesawu'r cyfle i ddarparu cyngor cyn i chi gyflwyno cais cynllunio llawn.

Mae gallu ymholi ynghylch materion cynllunio cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ystyried y materion hyn ac, os oes angen, ddiwygio'r cynigion cyn eu cwblhau a'u cyflwyno fel ceisiadau cynllunio.

Ffïoedd

Amserlen codi tal cyn ymgeisio (PDF) [456KB]

Yr hyn y byddwch yn ei dderbyn

Byddwn yn rhoi'r canlynol i chi:

  1. hanes cynllunio'r tir y bwriedir codi'r datblygiad arfaethedig arno, ar yr amod ei fod yn berthnasol i'r cais arfaethedig
  2. darpariaethau'r cynllun datblygu, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r cais arfaethedig
  3. unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r cais arfaethedig
  4. unrhyw ystyriaethau eraill sydd neu a allai fod yn berthnasol ym marn yr awdurdod
  5. asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd dan baragraffau (a) i (ch).

Ar gyfer datblygiadau mawr, gallwn hefyd ddweud wrthych:

  1. a yw'n debygol y bydd goblygiadau cynllunio (o fewn yr ystyr a geir yn adran 106 Deddf (goblygiadau cynllunio) 1990 yn ofynnol, ac os felly, syniad o gwmpas tebygol goblygiadau cynllunio o'r fath, gan gynnwys syniad o unrhyw swm y gall fod angen ei dalu i'r awdurdod
  2. a fydd atebolrwydd i dalu Ardoll Isadeiledd Gymunedol yn debygol, ac os felly, syniad o'r swm tebygol
  3. manylion unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth y byddai ei hangen er mwyn i gais dilynol fod yn gais dilys.

Ffurflenni cais

Ffurflenni cyn cyflwyno cais statudol

Mae'r rhain ar gyfer ymholiadau cynllunio cyffredinol a byddant yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ymgeiswyr.

Ffurflen Ymholi Cyn Ymgeisio Statudol - rhan 1 (Word doc) [56KB]

Ffurflen Ymholi Cyn Ymgeisio Statudol - rhan 2 (Word doc) [23KB]

Ffurflenni cyn cyflwyno cais anstatudol

Mae'r rhain ar gyfer ymholiadau cyfrinachol ac mae'n rhaid talu TAW ar ben y ffi. Mae'r cais hwn hefyd yn cynnwys cyfarfod ag un o'n swyddogion cynllunio.

Ffurflen Ymholi Cyn Ymgeisio Anstatudol - rhan 1 (Word doc) [54KB]

Ffurflen Ymholi Cyn Ymgeisio Anstatudol - rhan 2 (Word doc) [23KB]

Cyngor ychwanegol

Os oes angen cyngor ychwanegol arnoch cyn i chi gyflwyno cais cynllunio llawn, gallwch ofyn am gael cyfarfod ag un o'n swyddogion cynllunio. Gallwch hefyd drefnu cyfarfod os gwrthodwyd eich cais cynllunio ac yr hoffech drafod pa ddiwygiadau y gellir eu gwneud.

Ffurflen Cyngor Ychwanegol/Cais am Gyfarfod Cyn Ymgeisio (Word doc) [53KB]

Close Dewis iaith