Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais

Cyngor sy'n benodol i wasanaeth gan nifer o'n hadrannau mewn perthynas â'ch cynlluniau - ar gyfer deiliaid tai a datblygwyr.

Ni fyddai'r wybodaeth hon yn cael ei darparu drwy wasanaeth cyngor cyn cyflwyno cais cyffredinol (statudol).

Gellir cael cyngor gan yr adrannau canlynol:

  • Cynllunio
  • Priffyrdd a Chludiant (traffig, telemateg, datblygiad rhwydwaith, draenio, diogelwch ffyrdd)
  • Rheoli Llygredd
  • Tai
  • Rheoli Gwastraff
  • Amgylchedd Naturiol (cofrestru tiroedd comin, ardal o harddwch naturiol eithriadol (AOHNE), mynediad i gefn gwlad, tirlunio, cadwraeth natur, isadeiledd gwyrdd)
  • Addysg
  • Gwasanaethau Diwylliannol (cyfleusterau cymunedol, cyfleusterau hamdden/chwaraeon cymunedol, iechyd a lles, twristiaeth, cysylltedd, rheoli cyrchfannau)

Ffïoedd

Ffïoedd ar gyfer cyngor cyn cyflwyno cais sy'n benodol i wasanaeth Ffïoedd a thaliadau ar gyfer cyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais a chytundebau perfformiad cynllunio

Unwaith y mae eich cais wedi'i brosesu bydd yr isadran cynllunio yn cysylltu â chi gyda'r gost a'r amserlen ar gyfer eich cais. Bydd y manylion am sut i dalu yn cael eu darparu ac ni fydd y gwaith gofynnol yn dechrau nes bod taliad llawn wedi'i wneud.

Gwneud cais am gyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais

Gwneud cais am gyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais Gwneud cais am gyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais

Close Dewis iaith