Arweiniad am apeliadau gwaharddiad - cyngor i rieni / gofalwyr
Cyngor i rieni / gofalwyr.
Pryd bydd fy apel yn cael ei chlywed?
A all rhywun ddod gyda mi i'r cyfarfodydd?
Beth fydd yn digwydd yn yr apel?
Sut bydd y Panel yn penderfynu os dylai fy mhlentyn gael ei wahardd?
Beth sy'n digwydd os yw'r Panel yn penderfynu y dylai eich plentyn ddychwelyd i'r ysgol?
Beth sy'n digwydd os yw'r Panel yn penderfynu na ddylai eich plentyn ddychwelyd i'r ysgol?
A fyddai'n derbyn penderfyniad y Panel ar y dydd?
Beth yw apel gwaharddiad?
Os bydd Pwyllgor Disgyblu Disgyblion Corff Llywodraethu yn cynnal gwaharddiad parhaol byddwch yn derbyn llythyron gan yr ysgol a'r Prif Swyddog Addysg yn esbonio eich hawl i apelio a'r dyddiad terfynol y gallwch gyflwyno eich apel.
- Dylech anfon eich apel at Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.
- Yn eich llythyr apel dylech nodi pam rydych chi'n credu y dylai eich plentyn ailymuno a'r ysgol a chynnwys unrhyw ddogfennau yr hoffech i'r panel eu hystyried i gefnogi eich achos.
- Gallwch hefyd gael cyngor drwy ffonio Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.
Gall disgyblion sy'n 11 oed neu'n hyn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y gwnaethant gael eu gwahardd apelio drostynt eu hunain a chant yr wybodaeth i wneud hyn (gweler dogfen ar wahan).
Dylech apelio'n unig os hoffech i'ch plentyn ddychwelyd i'r un ysgol y gwaharddwyd ef/hi ohoni'n barhaol. (Paneli Apel sy'n penderfynu a all disgybl ddychwelyd i'r ysgol yn unig. Nid ydynt yn clirio enw disgybl).
Mae penderfyniad y Panel Apel yn derfynol.
Pryd bydd fy apel yn cael ei chlywed?
Bydd dyddiad yr apel yn cael ei drefnu gan Adran Gyfreithiol y cyngor o fewn 15 niwrnod ysgol ar ol derbyn eich apel a byddant yn ysgrifennu atoch i drafod dyddiad yr apel. Cynhelir apeliadau fel arfer yn y Ganolfan Ddinesig. Os oes gennych unrhyw broblem mynychu ar y diwrnod hwnnw, rhowch wybod i'r Adran Gyfreithiol ar unwaith drwy ffonio 01792 636584.
Os oes angen cyfieithydd arnoch neu mae gennych anabledd ac mae angen cymorth arnoch, rhowch wybod i ni drwy ffonio 01792 636584.
A all rhywun ddod gyda mi i'r cyfarfodydd?
Gallwch ddod a ffrind gyda chi. Gall y ffrind siarad ar eich rhan os nad ydych yn teimlo y gallwch siarad dros eich hunan.
Bydd eich plentyn hefyd yn cael ei wahodd i'r cyfarfod hefyd os yw dros 11 oed. Os yw eich plentyn yn iau, gallwch ddod a'ch plentyn i'r cyfarfod os hoffech.
Beth fydd yn digwydd yn yr apel?
- Bydd Clerc y Panel yn esboni'r gweithdrefnau i chi cyn i chi fynd i mewn i'r ystafell.
- Bydd aelodau'r Panel yn cyflwyno eu hunain a bydd Cadeirydd y Panel neu'r Clerc yn amlinellu trefn y siarad cyn i'r gwrandawiad ddechrau.
- Bydd 3 neu 5 aelod ar y panel.
- Bydd pennaeth yr ysgol a swyddog o'r Adran Addysg yn bresennol. Bydd y pennaeth yn esbonio pam y gwnaeth y penderfyniad i wahardd eich plentyn. Bydd gennych y cyfle i ofyn cwestiynau.
- Byddwch yna yn cael eich gwahodd i annerch y Panel a chyflwyno eich rhesymau dros wneud cais i'ch plentyn ailymuno a'r ysgol.
- Gweithdrefn ffurfiol yw hon i sicrhau fod gan bawb y cyfle i roi eu barn ac i ofyn cwestiynau i'r bobl eraill sy'n bresennol. Fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i'ch helpu i gyflwyno'ch achos a gwneud i chi deimlo'n gatrefol.
Sut bydd y Panel yn penderfynu os dylai fy mhlentyn gael ei wahardd?
Mae'n rhaid i'r Panel wrando'n ofalus ar bawb a phenderfynu a wnaeth eich plentyn yr hyn yr honnir a wnaeth ddigwydd.
Os ydynt yn credu y gwnaeth ef neu hi yr hyn a ddywedodd y pennaeth, yna mae'n rhaid i'r Panel benderfynu ai gwaharddiad parhaol oedd y gosb briodol.
Beth sy'n digwydd os yw'r Panel yn penderfynu y dylai eich plentyn ddychwelyd i'r ysgol?
Mae'n rhaid i'r ysgol aildderbyn eich plentyn.
Beth sy'n digwydd os yw'r Panel yn penderfynu na ddylai eich plentyn ddychwelyd i'r ysgol?
- Bydd eich plentyn yn parhau i dderbyn addysg gartref nes bydd penderfyniad yn cael ei wneud am ddyfodol ei addysg.
- Gall eich plentyn gael ei gyfeirio at Banel Addysg mewn Lleoliad Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) yr Awdurdod Lleol lle yr argymhellir darpariaeth addysg ar gyfer y dyfodol.
- Byddwch yn cael gwybod am yr argymelliadau hyn gan swyddog yn yr Adran Gyfreithiol a gofynnir am eich barn.
- Mae penderfyniad y Panel yn derfynol a does dim hawl pellach i apelio.
A fyddai'n derbyn penderfyniad y Panel ar y dydd?
Bydd y panel yn gwneud penderfyniad ar y dydd. Byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig ond bydd Clerc y Panel fel arfer yn ceisio rhoi gwybod i chi ar yr un dydd, dros y ffon i ddechrau, a chadarnhau hyn yn ysgrifenedig o fewn 2 ddiwrnod ysgol.