Cyngor i fusnesau bwyd newydd yn Abertawe
Mae Cyngor Abertawe'n cynnig gwasanaeth cyngor i fusnesau bwyd newydd sy'n agor yn Abertawe. Mae'r gwasanaeth yn caniatáu busnesau i fynegi pryderon i swyddogion arbenigol yn y tîm Diogelwch Bwyd a derbyn cyngor penodol am arfer gorau.
Codir ffi o £150 (gan gynnwys TAW ar sail adfer costau) ar gyfer y gwasanaeth cyngor i fusnesau bwyd newydd a chanddynt 10 gweithiwr ar y mwyaf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:
- ymweliad safle â'r eiddo
- hyd at 2 awr o gyngor gan aelod o'r tîm Diogelwch Bwyd
- adroddiad ysgrifenedig
- y pecyn Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell priodol
Bydd angen trafod cost y gwasanaeth hwn ar gyfer busnesau bwyd newydd a chanddynt mwy na 10 gweithiwr gyda'r adran. Bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod y ffi ac i roi gwybod i chi sut y gellir prosesu'r taliad os ydych yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth.
I gael cyngor ar gyfer busnes bwyd newydd yn Abertawe, llenwch ein ffurflen gais.
Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen gais isod, ein nod yw cysylltu â chi o fewn 5 niwrnod gwaith. Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnom cyn y gallwn fwrw ymlaen â hyn, yna byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio'r manylion a roddwyd gennych.