Cyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais
Cyngor sy'n benodol i wasanaeth gan nifer o'n hadrannau mewn perthynas â'ch cynlluniau - ar gyfer deiliaid tai a datblygwyr.
Ni fyddai'r wybodaeth hon yn cael ei darparu drwy wasanaeth cyngor cyn cyflwyno cais cyffredinol (statudol).
Gellir cael cyngor gan yr adrannau canlynol:
- Cynllunio
- Priffyrdd a Chludiant (traffig, telemateg, datblygiad rhwydwaith, draenio, diogelwch ffyrdd)
- Rheoli Llygredd
- Tai
- Rheoli Gwastraff
- Amgylchedd Naturiol (cefn gwlad, tirwedd ac isadeiledd gwyrdd, adferiad natur)
- Addysg
- Gwasanaethau Diwylliannol (cyfleusterau cymunedol, cyfleusterau hamdden/chwaraeon cymunedol, iechyd a lles, twristiaeth, cysylltedd, rheoli cyrchfannau)
Ffïoedd
Unwaith y mae eich cais wedi'i brosesu bydd yr isadran cynllunio yn cysylltu â chi gyda'r gost a'r amserlen ar gyfer eich cais. Bydd y manylion am sut i dalu yn cael eu darparu ac ni fydd y gwaith gofynnol yn dechrau nes bod taliad llawn wedi'i wneud.
Gwneud cais am gyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais
Addaswyd diwethaf ar 15 Hydref 2024