Ffïoedd a thaliadau ar gyfer cyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais a chytundebau perfformiad cynllunio
Trosolwg o ffïoedd fesul adran ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Byddwch yn derbyn eich ffi lawn a gwybodaeth am sut i dalu ar ôl i'ch cais gael ei brosesu, ac ar ôl neilltuo amser ar gyfer eich cais.
Mae'r ffïoedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Ar y dudalen hon
Cynllunio
Bydd taliadau'n berthnasol ar gyfer amser y swyddog gan y bydd angen iddo gydlynu ag adrannau eraill o'r cyngor ar y gwasanaethau y byddant yn eu cynnig yn ogystal ag unrhyw wybodaeth ychwanegol y gallem ei darparu. Felly bydd y ffïoedd hyn yn dibynnu ar anghenion ceisiadau unigol.
Priffyrdd a Chludiant (traffig, telemateg, datblygiad rhwydwaith, draenio, diogelwch ffyrdd)
Bydd y taliadau'n caniatáu ar gyfer:
- ymweliad safle
- adolygiad o bolisi, safonau ac arweiniad priffyrdd - yn berthnasol ar gyfer asesu'r cais
- cyfarfod wyneb yn wyneb (yn un o adeiladau'r cyngor) neu gyfarfod Teams (os gwneir cais am hyn)
- lefel y manylion sydd eu hangen a chwmpasu dogfennaeth (datganiad / asesiad trafnidiaeth), briff archwiliad RSA / ansawdd os oes angen
- addasrwydd mynediad i'r briffordd a/neu drefniadau parcio
- addasrwydd cynigion draenio sy'n dod i'r amlwg gan eu bod yn berthnasol i ddyluniad/gynllun y briffordd
- unrhyw gyfraniadau adran 106 tebygol
- enwebiad ar gyfer mabwysiadu ffyrdd
- ymateb ysgrifenedig llawn (o fewn 21 niwrnod i dderbyn y ffi)
- ail-wiriad o'r cynllun os oes angen diwygiadau
Sylwer: bydd unrhyw gais am wybodaeth neu addasiadau ychwanegol yn destun amcangyfrif o gost ar ôl derbyn manyleb ynghylch natur yr wybodaeth y gwnaed cais amdani.
Ffïoedd Priffyrdd a Chludiant
- Strategol (+250 o anheddau neu fasnachol uwchlaw 5000m²)
- Amser y swyddog: I'w gynghori ar sail cais fesul cais
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): I'w gynghori ar sail cais fesul cais
- Mawr o bwys (100 i 250 o anheddau, 2 neu fasnachol 500 i 5000m²)
- Amser y swyddog: 5 niwrnod
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £2,553
- Mawr (50 i 100 o anheddau neu fasnachol 1000 i 2500m²)
- Amser y swyddog: 3 dydd
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £1,522
- Bach / mawr bach (rhwng 5 a 50 o anheddau neu fasnachol hyd at 1000m²)
- Amser y swyddog: 1 diwrnod
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £510
- Bach / mynediad newydd (5 annedd neu lai neu fasnachol hyd at 100m²)
- Amser y swyddog: 2 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £137
Ffiïoedd Rheoli Llygredd
- Categori A - datblygiad strategol
- Amser y swyddog: 6 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £302
- Categori B - datblygiad mawr
- Amser y swyddog: 4 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £202
- Categori C - datblygiad bach
- Amser y swyddog: Awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £39
- Categori CH - deiliad tŷ
- Amser y swyddog: ½ awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £20
Ffïoedd tai
- Cyfradd fesul awr (gan gynnwys TAW): £58
Ffïoedd addysg
- Categori A - datblygiad strategol
- Amser y swyddog: 5 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £252
- Categori B - datblygiad mawr
- Amser y swyddog: 1 ½ awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £76
- Categori C - datblygiad bach
- Amser y swyddog: Awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £50
Ffïoedd parciau
- Categori A - datblygiad strategol
- Amser y swyddog: 15 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £851
- Categori B - datblygiad mawr
- Amser y swyddog: 5 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £284
Ffïoedd Rheoli Gwastraff
- Categori A - datblygiad strategol
- Amser y swyddog: 8 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £454
- Categori B - datblygiad mawr
- Amser y swyddog: 6 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £340
- Categori C - datblygiad bach
- Amser y swyddog: 4 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £227
- Categori CH - deiliad tŷ
- Amser y swyddog: 2 awr
- Cyfanswm y ffi (gan gynnwys TAW): £113
Ffïoedd Amgylchedd Naturiol
- Tîm Cefn Gwlad (yn ymdrin â Thirwedd Genedlaethol Gŵyr, Tir Comin a Hawliau Tramwy Cyhoeddus):
- Cyfradd fesul awr (gan gynnwys TAW): £76
- Yn darparu cyngor ar y canlynol:
- Tirwedd Genedlaethol Gŵyr
- Cynllun Rheoli Gŵyr
- Tir comin
- Chwiliadau tir comin
- Ceisiadau i gofrestru maes tref neu bentref newydd
- Am fanylion pellach ewch i: Cofrestru tir comin
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Newidiadau i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus (dargyfeiriadau, addasiadau, diddymu)
- Ceisiadau cynllunio
- Cau llwybrau dros dro
- Ceisiadau i addasu'r Map a Datganiad Diffiniol
- Tirwedd Genedlaethol Gŵyr
- Tîm Tirwedd ac Isadeiledd Gwyrdd
- Cyfradd fesul awr (gan gynnwys TAW): £74
- Yn darparu cyngor ar y canlynol:
- Cynigion pensaernïaeth tirwedd - adolygu rhywogaethau planhigion, deunyddiau caled, celfi stryd, mannau gwyrdd agored a mannau cyhoeddus
- Coed presennol ac arfaethedig a gofynion coedyddiaeth
- Rhywogaethau planhigion a phridd ar gyfer systemau draenio trefol cynaliadwy, toeon a waliau gwyrdd
- Cynigion ar gyfer safleoedd isadeiledd gwyrdd a chynlluniau cynnal a chadw a rheoli cyfredol
- Tîm Adfer Natur (Ecoleg Cynllunio)
- Cyfradd fesul awr (gan gynnwys TAW): £78
- Yn darparu cyngor ar y canlynol:
- Safleoedd a warchodir y gall datblygiadau effeithio arnynt gan gynnwys Tirwedd Genedlaethol Gŵyr a'r amgylchedd morol o amgylch y sir
- Rhywogaethau a warchodir neu a nodir a/neu gynefinoedd y gall fod angen eu hystyried
- Gofynion ar gyfer arolygon/asesiadau ecolegol
- Gofynion ar gyfer datganiadau isadeiledd gwyrdd a budd net i fioamrywiaeth
- Polisïau Cynllun Datblygu Lleol a Chanllawiau Cynllunio Atodol yr asesir cais yn eu herbyn
Cyfrifir ffïoedd yn seiliedig ar lefel yr wybodaeth a ddarperir mewn cais, yn ogystal â maint a chymhlethdod y datblygiad arfaethedig. Os oes angen cynnal cyfarfodydd ac/neu ymweliadau safle, yna dylid nodi hyn yn y cais fel y gellir cyfrifo'r ffïoedd perthnasol.
Ffïoedd Gwasanaethau Diwylliannol
- Cyfradd fesul awr (gan gynnwys TAW): £69
- Cyfleusterau cymunedol (hamdden cyffredinol)
- Cyfleusterau hamdden/chwaraeon cymunedol
- Iechyd a lles
- Twristiaeth
- Yn cydweddu â strategaethau twristiaeth a diwylliannol
- Rheoli cyrchfannau
