Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Corfforaethol 2020-22

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn disgrifio gweledigaeth y cyngor dros Abertawe, ein 6 blaenoriaeth allweddol (amcanion lles ac amcanion gwella) a gwerthoedd ac egwyddorion ein sefydliad a fydd yn sylfaen i gyflwyno'n blaenoriaethau a'n strategaeth gyffredinol.

Mae'r Cynllun Corfforaethol wedi'i ddiwygio a'i gyflwyno ar gyfer 2020/22. 

Dyma'n blaenoriaethau ar gyfer 2020/22 sy'n cael eu nodi yn ein Cynllun Corfforaethol:

  • Diogelu pobl rhag niwed - er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a chamfanteisio
  • Gwella addysg a sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd
  • Trawsnewid ein heconomi a'n hisadeiledd - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion
  • Trechu tlodi - fel bod pob person yn Abertawe'n gallu cyflawni ei botensial
  • Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe - fel ein bod yn cynnal ac yn cyfoethogi bioamrywiaeth, yn lleihau ein hôl-troed carbon, yn gwella'n gwybodaeth am yr amgylchedd naturiol a'n dealltwriaeth ohono ac yn gwella'n hiechyd a'n lles yn sgîl hyn
  • Trawsnewid a datblygu cyngor y dyfodol - fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

Mae hyn yn cyflwyno'n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i osod Amcanion Lles ac Amcanion Gwella.

Dengys ein blaenoriaethau gyfraniad y cyngor at saith nod cenedlaethol Cymru a ddisgrifir yn y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ('y Ddeddf') ac maent yn disgrifio sut byddwn yn mwyafu'r cyfraniad hwn i'r nodau cenedlaethol ac i les cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Abertawe drwy weithio'n unol â'r egwyddorion cynaladwyedd a amlinellir yn y Ddeddf.

Close Dewis iaith