Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau ffyrdd arfaethedig (CON29R-3.4)

Rhestr o gynlluniau ffyrdd arfaethedig.

 

Cynlluniau traffig arfaethedig
3.4 d
Ffordd Gyswllt Ysbyty Treforys.Cynnig am gynllun ffordd strategol newydd i leihau traffig tua'r ysbyty ar ffyrdd preswyl a gwella effeithiolrwydd cyswllt. Llwybr ambiwlansys. Yn y cam dylunio cychwynnol ar hyn o bryd. Llwybr yn dechrau o gylchfan y B4489 Felindre ger mynedfa'r twnel rheilffordd ranbarthol, gan fynd tua 1km i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. Nid oes cyllid ar gael ac mae'n anhebygol y bydd yn symud yn ei flaen yn y tymor byr i ganolog (rhaglen CTLl 2020-2030).
Cyswllt Penllergaer a Ffordd Fynediad Gorllewin AbertaweFfordd fynediad newydd arfaethedig fel rhan o raglen tymor byr 2015-2020 y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a'r CDLl adnau drafft sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd.  I gyflawni dyheadau'r CDLl i ddarparu mynediad gwell i Barc Busnes Gorllewin Abertawe, safleoedd cyflogaeth ac ardaloedd preswyl. Mae astudiaethau rhagarweiniol wedi nodi aliniad a ffefrir o Heol Titaniwm i gyfeiriad y gogledd i ymuno â'r B4620, yr A484 a'r A4240. Ni sicrhawyd cyllid. Ni ddyluniwyd eto.
Gwella Gallu Heol PentrguineaAdeiladu arfaethedig o briffordd rhwng Pontydd Tawe a ffordd gyswllt ar draws y cwm i gyflwyno ffordd ddeuol effeithiol er mwyn gwella trwygyrch traffig. Nid oes cyllid ar gael ac mae'n anhebygol y bydd yn symud yn ei flaen yn y tymor byr i ganolog (rhaglen CTLl 2020-2030).
Bro TaweGwaith datblygu preswyl a masnachol parhaus yn ardal Bro Tawe rhwng y B4625 a llinell rheilffordd ranbarthol Abertawe. Cynllun adfywio tymor hir. Am ragor o wybodaeth, ysgrifennwch i: Tîm Datblygu, Adfywio Economaidd a Gwasanaethau Cynllunio, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN

3.4a/b/c/e/f - dim