Cynllunio gwiriadau ar gyfer rheoliadau adeiladu
Rhaid cyflwyno cynlluniau neu ddyluniadau ar gyfer cynlluniau arfaethedig i'r cyngor. Byddwn yn eu gwirio i sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau adeiladu cyn dechrau'r gwaith.
Gwneir hyn i sicrhau y gellir gwneud unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau cyn dechrau'r gwaith ar y safle. Gall hyn arbed amser ac arian i'r datblygwr.
Ar gyfer gwaith domestig a thai newydd, mae'n ofynnol cyflwyno dwy set o'r cynlluniau i ni. Ar gyfer cynlluniau masnachol, mae'n ofynnol cyflwyno pedwar copi o'r cynlluniau i ni oherwydd mae'n rhaid i ni ymgynghori â'r Gwasanaeth Tân ar gyfer y mathau hyn o adeilad.
Bydd angen i chi gael person â'r cymwysterau priodol megis pensaer neu ddylunydd i luniadu'ch cynlluniau. Mae hefyd yn ddefnyddiol gofyn i rywun sydd wedi cael gwaith wedi'i wneud yn ddiweddar argymell adeiladwr.
Ar gyfer cynlluniau mawr, rydym yn cynnig gwiriadau cyn cyflwyno cais a chyfarfodydd i gynorthwyo gyda'r broses. Mae'r rhain yn helpu i arbed amser ac arian ar gyfer y cwsmeriaid a'r cyngor. Os oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaeth hwn neu os ydych am gael am gael cyngor ar unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â David Lloyd.
David Lloyd
- Enw
- David Lloyd
- Teitl y Swydd
- Building Control
- E-bost
- bcon@swansea.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 635608
- Rhif ffôn symudol
- 07980 712692