Trefniadaeth Ysgolion - Cynnig i gyfuno ysgolion cynradd Blaen-y-maes a Phortmead
Mae Cyngor Abertawe'n ymgynghori ar y cynnig trefniadaeth ysgolion canlynol: Cyfuno Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead ar 1 Medi 2027 er mwyn sefydlu ysgol gynradd newydd (ag ystod oedran 3-11 oed) ar safleoedd presennol yr ysgol a chan ddefnyddio'r un adeiladau.
Mae'r cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig hwn bellach wedi dod i ben.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r wedudalen hon gyda datblygiadau a byddwn yn cyhoeddi adroddiad am yr ymgynghoriad maes o law.
Os oes angen y wybodaeth hon arnoch ar fformat mwy hygyrch, cysylltwch â'r Tîm Trefniadaeth Ysgolion neu ffoniwch 01792 636509.
Dogfen ymghynghori
Y cynnig yw dod ag Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgolion Cynradd Portmead i ben dan a43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar 31 Awst 2026 a sefydlu ysgol gynradd newydd (ystod oedran 3-11) ar safleoedd presennol yr ysgol a defnyddio'r un adeiladau o dan a41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Yn y bôn, 'cyfuniad' ysgolion yw hwn.
Dogfen ymgynghori (ar gyfer disgyblion)
Ym mis Medi 2027 (dwy flynedd a hanner o nawr), mae'r cyngor am gyfuno Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead i greu un ysgol fawr fel y gall pawb rannu athrawon a syniadau.
Cwestiynau cyffredin
Cwestiynau cyffredin am gyfuno'r ysgolion.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 16 Mai 2025