Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sut i dalu eich anfonebau gwastraff masnachol ac ailgylchu

Os ydych yn penderfynu defnyddio gwasanaethau'r cyngor gallwch dalu'ch anfoneb mewn nifer o ffyrdd.

Fel arfer byddwch yn derbyn anfoneb bob 6 mis ym mis Ebrill a mis Hydref am y gwasanaeth a ddarperir, yn daladwy o flaen llaw am y chwe mis dilynol. Gellir talu'r anfoneb yn llawn (manylion ar gefn yr anfoneb) neu gallwch ofyn am gael talu trwy Ddebyd Uniongyrchol fel bod cost pob anfoneb yn cael ei hymestyn dros 5 mis. Os ydych yn cwblhau mandad Debyd Uniongyrchol, anfonwch y fersiwn wreiddiol i'r cyfeiriad ar y DU - ni allwn dderbyn copïau wedi'u sganio neu lungopïau. Os ydych yn dechrau derbyn gwasanaeth rhwng ein dyddiadau anfonebu arferol, byddwch yn derbyn anfoneb dros dro i'w thalu'n llawn.

Pa ffordd bynnag rydych yn talu, sicrhewch eich bod yn dyfynnu'ch rhif anfoneb 8 ffigwr, neu ni fydd modd rhoi'r arian yn y cyfrif cywir.

Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol

Gallwch dalu'n fisol am y rhan fwyaf o'n gwasanaethau casglu gwastraff cyffredinol trwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae angen sefydlu hyn cyn gynted ag yr ydych yn derbyn eich anfoneb neu cyn y disgwylir i ni anfonebu cwsmeriaid presennol.

I wneud cais am ffurflen Debyd Uniongyrchol, ffoniwch is-adran cyfrifon y cyngor ar 01792 636098. Pan fyddwch yn derbyn y ffurflen llenwch hi gyda'ch manylion a'i dychwelyd i'r cyfeiriad ar y ffurflen cyn gynted â phosib.

Sylwer, nid yw Debyd Uniongyrchol ar gael ar gyfer anfonebau ailgylchu gwydr a chaniau. Anfonebir hyn ar wahân i'r gwastraff masnachol.

I dalu ar-lein

Mae'r cyfleuster talu ar-lein yn eich galluogi i wneud taliadau'n uniongyrchol ac yn ddiogel i'r cyngor 24 awr y dydd 7 niwrnod yr wythnos. Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd. 

Gwneud taliad ar-lein (Yn agor ffenestr newydd)

Wrth i chi wneud taliad byddwch yn cael eich trosglwyddo i wefan taliadau diogel Civica. Dylech ddewis yr opsiwn i dalu anfonebau'r cyngor.

I dalu trwy ddefnyddio bancio ar-lein neu BACS

Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor, ond cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfeirnod/rhif eich cyfrif yn gywir er mwyn i ni ddyrannu'ch taliad i'ch cyfrif:

Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AF.

Côd Didoli 30-00-00
Rhif y Cyfrif 00283290

Am fanylion CHAPS, IBAN, BIC neu DUNS ffoniwch yn is-adran cyfrifon derbyniadwy ar 01792 635847 neu e-bostiwch cyfrifon.derbyniadwy@abertawe.gov.uk.

I dalu drwy system ffôn awtomataidd

Y rhif ffôn cyfradd lleol yw 0300 456 2765 a bydd angen eich rhif cyfrif/cyfeirnod arnoch, yn ogystal â'ch dull dewisol o dalu, sy'n gallu bod yn gerdyn debyd neu gredyd. Dylech ddewis yr opsiwn i dalu anfonebau'r cyngor.

 

Sylwer nad yw'r swyddfa fasnachol yn gallu derbyn taliadau.

Os nad ydych yn talu ar ôl 28 niwrnod byddwch yn derbyn hysbysiad atgoffa - 14 diwrnod ar ôl hynny bydd hysbysiad terfynu yn cael ei gynhyrchu a bydd gennych 7 niwrnod i dalu neu bydd gwasanaethau'n dod i ben a chymerir eich biniau. Os caiff gwasanaeth cwsmer ei atal am beidio â thalu a chymerir y bin i ffwrdd, ni fydd y cyngor yn ailddechrau casgliadau am o leiaf 12 mis, bydd angen i fusnesau wneud trefniadau eraill ar gyfer eu gwasanaethau gwastraff.

Close Dewis iaith