Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru - Ail Adolygiad (DTRh2) (Medi 2020)

Mae Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau (2004) (MTAN1) yn mynnu bod Datganiadau Technegol Rhanbarthol (DTRh) yn cael eu paratoi ar gyfer yr ardaloedd a gwmpesir gan Weithgorau Agregau Rhanbarthol (GARh) De Cymru a Gogledd Cymru. Mae'r ddogfen hon yn darparu strategaeth ar gyfer cyflenwi agregau adeiladu yn y dyfodol yn y rhanbarth, gan ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ynghylch y cydbwysedd cyflenwad a galw a'r syniadau cyfredol am gynaladwyedd.

Mae adolygiad y DTRh yn darparu mecanwaith sy'n annog awdurdodau cynllunio lleol (ACLlau) ym mhob rhanbarth i fodloni'r amcanion cynaladwyedd cenedlaethol sy'n ymwneud â mwynau dros gyfnod o hyd at 25 mlynedd (ar gyfer cerrig mathredig) neu 22 o flynyddoedd yn achos tywod a graean o'r tir. Mae adolygiad y DTRh yn darparu argymhellion penodol i'r ACLlau ynghylch symiau o agregau y mae angen eu cyflenwi o bob ardal (rhaniadau)a natur a maint unrhyw ddyraniadauy gall fod angen eu gwneud yn eu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i sicrhau bod darpariaeth ddigonol yn cael ei chynnal drwy gyfnod perthnasol y cynllun. Darperir manylion pellach yn yr atodiadau (Atodiad B (de Cymru)).