Toglo gwelededd dewislen symudol

Datrysiadau band eang

Mae cyflenwyr band eang ledled y DU yn uwchraddio eu rhwydweithiau i ffibr llawn. Bydd ffibr llawn yn rhoi mynediad i chi at fand eang cyflymach a mwy dibynadwy.

Fodd bynnag, mae ffurfio'r rhwydweithiau hyn yn mynd i gymryd amser ond mae atebion eraill ar gael. 

Defnyddiwch wiriwr argaeledd band eang Ofcom i wybod pa opsiynau sydd ar gael yn eich ardal: Argaeledd band eang (Ofcom) (Yn agor ffenestr newydd)

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol i dalu costau gosod drwy gynllun Allwedd Band Eang Cymru (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd).

4G / 5G - band eang symudol

4G yw'r bedwaredd genhedlaeth o dechnoleg rhwydwaith symudol. Dyma'r dechnoleg sy'n caniatáu i'ch dyfeisiau gysylltu â'r rhyngrwyd yn ddi-wifr. 5G yw'r genhedlaeth nesaf ac mae'n cael ei gyflwyno ledled y DU ar hyn o bryd. Mae 5G yn gweithredu ar amleddau uwch ac yn defnyddio technolegau uwch i drosglwyddo mwy o ddata yn gyflymach. Disgwylir iddo ddod â rhyngrwyd cyflym iawn, (ychydig iawn o oedi), a gallu cynnal nifer o ddyfeisiau ar yr un pryd.

Defnyddiwch y gwiriwr argaeledd ffonau symudol a ddarperir gan Ofcom sy'n rheoleiddio'r diwydiant i wybod beth sydd ar gael yn eich ardal.

Argaeledd darpariaeth symudol (Ofcom) (Yn agor ffenestr newydd)

Bydd angen i chi nodi eich cod post, yna gofynnir i chi ddewis eich cyfeiriad. Ar ôl i chi nodi'r wybodaeth hon, dangosir i chi pa fath o wasanaethau symudol sydd ar gael. Gwiriwch y ddarpariaeth yn y tŷ ac yn yr awyr agored am ddata a data manylach a fydd yn dangos a oes gwasanaeth rhyngrwyd symudol ar gael. Mae'n bwysig nodi mai rhagfynegiadau yw'r canlyniadau ac nid gwarant. Gall gwasanaethau sydd ar gael fod yn wahanol i'r canlyniadau a gall toriadau rhwydwaith effeithio arnynt. 

Bydd angen i chi siarad â'ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd symudol i gael gwybod a yw hwn yn ateb ymarferol i chi.

Mynediad Di-wifr Sefydlog (FWA)

Mae mynediad diwifr sefydlog yn cael ei ddefnyddio gan rai cyflenwyr yn Abertawe i ddarparu band eang gwell mewn ardaloedd lle nad yw'n ymarferol adeiladu rhwydwaith ffibr. Mae'r dechnoleg hon yn cynnig cyflymder tebyg i'r rhyngrwyd 4G. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gwiriwr argaeledd band eang Ofcom i weld a yw hwn yn cael ei gynnig yn eich ardal chi.

Argaeledd band eang (Ofcom) (Yn agor ffenestr newydd)

Lloeren / Orbit Daear Isel (LEO)

Technoleg LEO yw'r datrysiad lloeren mwyaf diweddar. Mae hyn yn defnyddio llawer iawn o loerennau llai sy'n cylchdroi'r ddaear ar uchderau isel ac sy'n gallu cynnig rhyngrwyd dibynadwy a chyflymach. Mae llawer o bobl wedi gosod datrysiadau fel Starlink gan ddefnyddio Cynllun Allwedd Band Eang Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y pecynnau amrywiol ar wefan Starlink.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024