Toglo gwelededd dewislen symudol

Dangosyddion Cymorth y Continwwm Angen (DCCA)

Mae'r dudalen hon i bobl sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae'r cymorth y mae ei angen ar blant, pobl ifanc a theuluoedd pan fydd plentyn yn tyfu lan neu pan nad yw pethau'n mynd cystal yn unigryw iddynt.

Nid yw'n rhaid i gymorth ddod o wasanaethau bob amser.Gall fod yn well os y daw oddi wrth y bobl o'u cwmpas, fel teulu neu ffrindiau.Efallai y bydd ei angen gan sefydliadau neu elusennau eraill.

Mae'r wybodaeth yn dangos sut gallwn ddeall yr hyn sy'n bwysig a'r hyn sydd o bwys iddyn nhw, ac mae'n manylu ar sut gall adrannau a sefydliadau weithio gyda'i gilydd a datblygu cynlluniau ar gyfer y cymorth iawn, ar yr adeg iawn.

Mae gwybodaeth hefyd am sut i wneud cais am Wybodaeth, Cyngor a Chymorth, a sut i uwch-gyfeirio pryderon pan fo'n briodol.

Atgyfeiriad gan ymarferydd/ gweithiwr proffesiynol - Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Atgyfeiriad gan ymarferydd/ gweithiwr proffesiynol - Gwasanaeth Plant a Theuluoedd

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Proses Pryderon Cynyddol Gweithwyr Proffesiynol Amlasiantaeth

Mae pob plentyn, person ifanc a'u teuluoedd yn unigryw ac mae ganddynt wahanol gefndiroedd, cryfderau, anghenion, pryderon a dyheadau. Mae hyn yn golygu y bydd y gefnogaeth y mae ei hangen ar blentyn wrth dyfu i fyny neu pan nad yw pethau'n mynd cystal hefyd yn unigryw iddo.