Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyfodol cadarnhaol ar gyfer safle siop nodedig

Disgwylir i adeilad nodedig yng nghanol dinas Abertawe gael ei ddefnyddio eto yn dilyn prynu'r adeilad, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru.

swansea from the air1

Bydd Cyngor Abertawe yn derbyn gwerth £2.85m o gyllid o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i helpu i brynu hen siop Debenhams yng nghanol Canolfan y Cwadrant.

Gan fod y pryniant bellach wedi'i gwblhau, bydd y cyngor yn dechrau chwilio am denantiaid manwerthu ar gyfer y safle amlwg, yn dilyn trafodaethau cychwynnol â nifer o bartïon.

Debenhams Abertawe oedd un o'i siopau niferus ar draws y DU a gaeodd yn 2021 ar ôl i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae hen uned Debenhams yn bwysig ar gyfer y gwaith cyfredol i adfywio canol y ddinas, ac mae'r cyngor yn awyddus iawn iddo gael ei ddefnyddio eto fel safle manwerthu cyn gynted â phosib.

"Nawr bod yr adeilad yn eiddo i'r cyngor bydd gennym fwy o reolaeth dros sgyrsiau â thenantiaid posib a cham nesaf ein cynllun yw sicrhau defnydd manwerthu yno. Byddwn hefyd, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yn gallu edrych ar sut gellir adnewyddu'r eiddo a'i addasu er mwyn ei ddefnyddio yn y dyfodol."

Meddai'r Cyng. Stewart, "Bydd creu dyfodol tymor hir, bywiog ar gyfer hen uned Debenhams yn helpu i ddiogelu canol dinas Abertawe ac annog manwerthwyr presennol a newydd i barhau i fuddsoddi yn ein dinas."

Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, "Rydym yn benderfynol o wneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn fannau gwell byth i fyw a gweithio. Rydym yn buddsoddi £100m yn ein rhaglen Trawsnewid Trefi tair blynedd i adfywio canolau trefi i sicrhau eu bod yn cynnal ein cymunedau lleol."

"Rwy'n falch bod Trawsnewid Trefi yn cefnogi Cyngor Abertawe wrth sicrhau y caiff yr adeilad nodedig hwn ei ddefnyddio eto fel rhan o'i gynigion ehangach ar gyfer twf economaidd canol y ddinas."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Byddai defnyddio'r adeilad hwn yn y modd hwn eto hefyd yn codi proffil Abertawe yng Nghymru a thu hwnt, gan roi hwb pellach i'r Cwadrant a chanol y ddinas, creu swyddi a chefnogi busnesau sy'n bod drwy ddenu rhagor o ymwelwyr."

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Medi 2023