Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleferydd, iaith a chyfathrebu

Mae Dechrau'n Deg yn dîm o Therapyddion Iaith a Lleferydd Arbenigol ac ymarferwyr cysylltiol

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r tîm Dechrau'n Deg a gallwn ddarparu cyngor, argymhellion a strategaethau i gefnogi siarad plant mewn ffyrdd amrywiol:

  • Rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer gweithlu'r lleoliadau gofal plant a rhieni i gynorthwyo plant â'u siarad.
  • Rydym yn cefnogi ac yn grymuso rhieni a theuluoedd plant ag anawsterau cyfathrebu a nodwyd yn eu cartref. Efallai y byddwn yn eu gweld hefyd yn eu lleoliad gofal plant.
  • Rydym yn nodi plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu tymor hir ac yn eu hatgyfeirio i Wasanaeth Iaith a Lleferydd Bae Abertawe ar gyfer ymyriadau pellach.

Gall cyswllt â ni gynnwys apwyntiadau wyneb yn wyneb a/neu rithwir.

Os oes gennych unrhyw bryderon am siarad eich plentyn, siaradwch â'ch Ymwelydd Iechyd a fydd wedyn yn cyfeirio atom ni os yw'n briodol, neu os hoffech gysylltu â'r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd yn uniongyrchol, e-bostiwch: SBU.ChildrensSpeechTherapy@wales.nhs.uk.

Edrychwn ymlaen at eich cefnogi chi a'ch plentyn!

Close Dewis iaith