Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ('y Ddeddf') yn gyfraith newydd sy'n newid y ffordd mae cynghorau lleol yng Nghymru'n darparu gofal a chefnogaeth.
Daeth i rym ym mis Ebrill 2016 ac yn golygu bod yn rhaid i gynghorau ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau fel mae'r Ddeddf yn nodi.
Mae'r Ddeddf yn rhoi mwy o opsiynau i unigolion a'u gofalwyr o ran eu gofal a'u cefnogaeth. I'ch cefnogi i gyflawni lles, byddwch chi a'ch teulu neu'ch gofalwr yn gwneud penderfyniadau am eich gofal a'ch cefnogaeth mewn partneriaeth gyfartal â gweithwyr proffesiynol. I'ch helpu i wneud hynny, bydd gennych fynediad hwylus i wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.
Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar helpu pobl i gadw'n iach, i fod yn ddiogel rhag niwed, i fod mor annibynnol ag y bo modd ac i gael eu cefnogi yn eu cymuned leol a chanddi.
Mae ganddi bum egwyddor:
- Hyrwyddo lles
Gweithio gyda chi i ddeall yr hyn sydd o bwys i chi a'ch helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig ar gyfer eich lles.
- Llais a rheolaeth
Eich rhoi wrth wraidd eich gofal; rhoi llais i chi wrth wneud penderfyniadau am eich bywyd a rheolaeth dros gyrraedd y canlyniadau sydd o bwys i chi.
- Atal ac ymyriad cynnar
Cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i'ch helpu i gadw'n iach a'n helpu i wybod pryd gallai fod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch i atal problemau rhag cyrraedd cam hanfodol.
- Cynhrchu ar y cyd
Rhoi cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ar sut mae'ch pecyn gofal a chefnogaeth yn cael ei lunio a'i ddarparu.
- Cydweithio
Gwaith partneriaeth cadarn rhwng y sefydliadau amrywiol a'r bobl sy'n eich cefnogi, gan eich helpu i fyw'r bywyd rydych chi'n ei ddewis yn hwy.
Lles
Mae lles yn rhan bwysig o'r Ddeddf. Mae'n golygu bod pobl:
- yn iach
- yn teimlo'n dda am eu bywyd
- yn ddiogel ac wedi'u hamddiffyn
- yn gallu dysgu pethau newydd.
I oedolion, mae hefyd yn golygu:
- rheolaeth dros eu bywyd
- gallu gweithio.
Ac, i blant, mae'n golygu eu bod:
- yn gallu tyfu lan yn hapus
- yn cael gofal da.
Er mwyn diffinio ystyr lles i'r unigolyn a deall a yw hyn yn cael ei gyflawni, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Datganiad Lles.
Asesu'ch anghenion cefnogaeth
Bydd proses asesu newydd, symlach ar gyfer gofal a chefnogaeth yn seiliedig ar eich anghenion chi a'r hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Yn ogystal â chael gwybod beth yw'r problemau, byddwn ni eisiau edrych ar eich cryfderau, yr hyn sy'n mynd yn dda yn eich bywyd a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi gan eich teulu a'ch ffrindiau a phobl eraill yn y gymuned.
Gall un person gynnal yr asesiad ar ran nifer o sefydliadau a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i gydlynu'ch cefnogaeth. Gallai'r rhain gynnwys eich cyngor lleol, gwasanaethau iechyd lleol, gwasanaethau cymunedol a sefydliadau sector gwirfoddol.
Mae hawl gyfartal gan ofalwyr i gael eu hasesu ar gyfer cefnogaeth, i'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw; gall unrhyw un sy'n darparu gofal di-dâl gael asesiad gofalwr.
Mae hawl gan fwy o bobl i gael taliad uniongyrchol fel y gallan nhw gael mwy o hyblygrwydd a rheolaeth dros y gefnogaeth maen nhw'n ei chael.
Bydd mwy o wasanaethau i atal problemau rhag gwaethygu, fel bod yr help iawn ar gael pan fydd ei angen arnoch chi.
Mae pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod hefyd wedi cael eu cyflwyno.
Rhagor o wybodaeth
I gael mwy o wybodaeth am y Ddeddf, ewch i: wefan (Gofal Cymdeithasol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd). Mae hyn yn cynnwys dolenni i nifer o dudalennau gan gynnwys Grynodeb i Bobl Ifanc o'r Ddeddf a Fersiwn Hawdd ei Ddarllen.
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru Hyb Gwybodaeth a Dysgu cynhwysfawr 'Deall y Ddeddf' (Yn agor ffenestr newydd) i'r rhai sy'n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol ac iechyd a'r trydydd sector.