Defnyddio'ch Bathodyn Glas
Pan fyddwch yn derbyn eich Bathodyn Glas byddwch hefyd yn derbyn copi o'r llyfryn 'Y Cynllun Bathodyn Glas: Hawliau a Chyfrifoldebau yng Nghymru'.
Mae'r daflen yn rhoi gwybodaeth am sut a phryd y dylid defnyddio'ch bathodyn, gan gynnwys lle y gallwch barcio neu beidio. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i ddefnyddio'ch Bathodyn Glas dramor.
Gallwch hefyd ddarllen Y Cynllun Bathodyn Glas: Hawliau a Chyfrifoldebau yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os ydych chi'n chwilio am safle anabl mewn maes parcio yn Abertawe gallwch weld rhestr lawn ar ein tudalen Dod o hyd i safleoedd parcio ym meysydd parcio Abertawe.
Os daw eich bathodyn i ben neu os na fydd arnoch ei angen mwyach dylech ei ddychwelyd i'r cyngor a'i ddosbarthwyd.