Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn yr arfaeth ar gyfer y gwasanaethau digidol

Disgwylir i wasanaethau swyddfa gefn hanfodol sy'n cysylltu preswylwyr â'r cyngor yn gyflym ac yn hawdd gael hwb yn y misoedd i ddod.

community hub 18 aug 22

Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu buddsoddi mwy na £2m yn y 12 mis nesaf ar wella ac uwchraddio gwasanaethau digidol, gyda'r prosiectau sydd yn yr arfaeth dros y pum mlynedd nesaf yn cynnwys gwario ar barciau, gwasanaethau recriwtio a hwb cymunedol newydd y ddinas.

Gofynnir i'r Cabinet gytuno ar hyn ar 20 Ebrill fel rhan o gamau pellach yng nghynlluniau'r cyngor i chwarae ei ran wrth hybu dyfodol Abertawe fel dinas sydd wedi'i gysylltu'n ddigidol.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae'r cyngor wedi trawsnewid y ffordd y mae'n gweithio fel y gall pobl wneud mwy o fusnes gyda ni'n amlach ac ar amserau sy'n addas iddynt."

Meddai, "Dros y saith mlynedd diwethaf rydym wedi cyflwyno cannoedd o brosiectau digidol, gan gael gwared ar fân-reolau diangen a ffurflenni papur, awtomeiddio gweithgarwch a chreu Cyfrif Abertawe fel y gall preswylwyr a busnesau fewngofnodi a chael mynediad at wasanaethau heb orfod ailadrodd gwybodaeth sylfaenol dro ar ôl tro."

Heblaw am gymeradwyo Strategaeth Digidol ddiweddaraf y cyngor ar gyfer 2023-2028, gofynnir i'r Cabinet gytuno hefyd ar y rownd gyntaf o fuddsoddiad ar gyfer y blynyddoedd sy'n dod, gyda'r prosiectau sydd yn yr arfaeth yn debygol o gynnwys awtomeiddio gwasanaethau ymhellach yn ogystal â gwelliannau i wasanaethau gweinyddol, derbyn a chludiant ysgolion.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Ebrill 2023