Digwyddiad Bwyd a Diod Croeso
Byddwch yn rhan o ddigwyddiad bwyd a diod Croeso!
Bydd Abertawe'n dathlu dydd Gŵyl Dewi mewn steil eleni wrth i ŵyl Croeso Abertawe ddychwelyd ar 28 Chwefror - 1 Mawrth 2025.
Fel rhan o'r dathliadau dwydydd, bydd digwyddiad Bwyd a Diod Croeso hefyd yn dychwelyd, ac mae'r cyfnod cyflwyno ceisiadau am stondin masnach bellach wedi cychwyn.
Bydd digwyddiad Bwyd a Diod Croeso'n cynnig cyfle i chi arddangos eich cynnyrch i gynulleidfa fawr, gan gyflwyno blasau, lliwiau ac arogleuon rhai o seigiau mwyaf eiconig a blasus Cymru.
Bydd gan rai o oreuon y rhanbarth gyfle i arddangos eu cynnyrch a'u bwyd cartref, a bydd arddangosiadau coginio byw drwy gydol yr ŵyl gan y cogyddion lleol gorau a chogyddion enwog.
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli'ch cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad gwych hwn lle cewch gyfle i gyflwyno'ch cynnyrch i dros 30,000 o bobl. Mae prisiau'n dechrau o £50 yn unig ar gyfer deuddydd yr ŵyl! Gyda hyn, cewch y canlynol:
- Dwydydd llawn o fasnachu
- Cynulleidfa deuluol
- Pabell fawr dan do
- Eich cynnwys mewn manylion am y digwyddiad ar wefan Joio Bae Abertawe.
Brysiwch, mae ceisiadau'n dod i ben, felly gwnewch gais ar-lein a byddwch yn rhan o'r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.