Diogelu plant
Mae pawb yn gyfrifol am sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn diogelu yw'r enw am hyn.
Os ydych yn meddwl bod plentyn - sef unrhyw un dan 18 oed - yn cael ei niweidio neu ei esgeuluso neu os ydych yn credu ei fod mewn perygl, dylech gysylltu â Un pwynt cyswllt (UPC) neu'r heddlu.
Os ydych yn pryderu bod plentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech ffoni'r heddlu ar unwaith ar 101 neu 999.
Mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Plant 1989 i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gymryd camau gweithredu ar ôl derbyn unrhyw wybodaeth y gallai plentyn fod mewn perygl o gael ei niweidio neu ei esgeuluso.
I adrodd am gam-drin honedig, cysylltwch â'r SPOC Un pwynt cyswllt (UPC)