Diogelwch dŵr ar y traeth
Dewch o hyd i ba draethau a oruchwylir gan achubwyr bywyd, gwybodaeth am faneri diogelwch a llanwau a sut i fod yn achubwr bywyd.
Patrolau achubwyr bywyd yn ystod 2024
Langland / Caswell
- Amserau patrolio 10.00am - 6.00pm:
- Gwyliau Pasg yr ysgol: 23 Mawrth - 7 Ebrill
- Bob dydd: 4 Mai - 15 Medi
Porth Einon
- Amserau patrolio 10.00am - 6.00pm:
- Bob dydd: 4 Mai - 1 Medi
Bae y Tri Chlogwyn:
- Amserau patrolio 10.00am - 6.00pm:
- Gwyliau Pasg yr ysgol: 23 Mawrth - 7 Ebrill
- Gŵyl y Banc a phenwythnosau'n unig: 4 Mai - 19 Mai
- Hanner tymor mis Mai: 25 Mai - 2 Mehefin
- Penwythnosau'n unig: 8 Mehefin- 23 Mehefin
- Bob dydd: 29 Mehefin - 1 Medi
Bydd achubwyr bywyd yn patrolio rhwng y faner goch a'r faner felen rhwng 10.00am a 6.00pm bob dydd, a byddant ar gael i roi cyngor i bobl sy'n ansicr ynglŷn â'r llanw neu amodau ymdrochi.
Am fwy o wybodaeth am achubwyr bywyd a phatrolau'r RNLI, ewch i wefan yr RNLI.
Ar y traeth
- ewch i draeth ag achubwyr bywyd arno bob amser
- sicrhewch eich bod yn darllen unrhyw rybuddion
- dylech nofio rhwng y baneri coch a melyn - mae achubwyr bywyd yn patrolio yn yr ardal hon.
- peidiwch byth â mynd i'r dwr pan fo'r faner goch yn chwifio - coch=perygl!
- gofynnwch i'r achubwr bywyd am yr amodau os ydych yn ansicr ble i nofio.
- peidiwch â nofio ar eich pen eich hun
- dim cyfarpar chwyddadwy - gallant gael eu chwythu allan i'r môr gan y gwynt neu'r cerrynt yn hawdd
- byddwch yn ofalus wrth chwarae mewn pyllau trai - gall y creigiau fod yn llithrig
Ansawdd dwr
Mae gan ein holl draethau sydd wedi'u patrolio statws Baner Las sy'n seiliedig ar ansawdd y dwr a glanweithdra, yn ogystal â bodloni meini prawf eraill.
Sicrhewch eich bod yn gwirio amser y llanw cyn ymweld oherwydd gall y llanw ddod i mewn yn gyflym ac efallai y byddwch yn sownd ar draeth. Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i'r achubwr bywyd.
Gallwch gael amserau'r llanw, amodau'r tywydd a syrffio, a hyd yn oed eu gweld drosoch chi eich hun ar y gwegamera yn Gower Live.
Diogelwch Dwr - Côd Awyr Agored
1. Nodwch y peryglon
Gall y rhain gynnwys:
- tymereddau oer iawn
- cerrynt cudd
- dŵr sy'n llifo'n gyflym, gwyliwch rhag lociau a choredau
- dŵr dwfn, gall fod yn anodd amcangyfrif dyfnder y dŵr
- efallai y bydd sbwriel neu weddillion cudd o dan yr arwyneb a fydd yn gallu dal, rhwygo neu dorri
- gall fod yn anodd dianc; gall llethrau fod yn serth, yn llithrig a chwalu'n friwsion
- dim achubwyr bywyd, nid oes gan y rhan fwyaf o ddyfrffyrdd awyr agored achubwyr bywyd
- gallai llygredd dwr eich gwneud yn sâl
2. Gwrandewch ar gyngor diogelwch
Dylech fynd i nofio ar draeth lle mae achubwr bywyd yn bresennol lle bynnag y bo'n bosib. Pan nad yw hyn yn bosib, cadwch lygad am faneri (gweler isod) neu rybuddion a fydd yn dweud wrthych yr hyn i'w wneud. (Ffynhonnell: RoSPA)
3. Ewch gyda'ch gilydd
Peidiwch â nofio, pysgota neu fynd ar gwch ar eich pen eich hun.
4. Dysgwch sut i helpu
Os ydych yn gweld rhywun mewn trafferthion, dywedwch wrth achubwr bywyd os oes un gerllaw. Ffoniwch 999 neu 112, os ydych ar y traeth, gofynnwch am achubwr bywyd, neu gofynnwch am yr heddlu.
Peidiwch byth â neidio i'r dwr eich hun i helpu rhywun.
Baneri
Cadwch lygad am y baneri canlynol ar y traeth a fydd yn dweud wrthych a yw'r dwr yn ddiogel i nofio ynddo a ble i beidio â nofio:
- Baneri coch a melyn: Bydd achubwr bywyd yn patrolio'r ardal rhwng y ddwy faner hyn. Dyma'r ardaloedd diogel i nofio, corff-fyrddio a defnyddio cyfarpar chwyddadwy ynddynt.
- Baneri du a gwyn sgwarog: Bydd achubwyr bywyd yn patrolio'r ardal rhwng y ddwy faner hyn ond mae'r ardal ar gyfer crefft dwr megis byrddau syrffio a chaiacau. Peidiwch byth â nofio na chorff-fyrddio yn yr ardaloedd hyn.
- Baneri coch: Mae'r baneri hyn yn dynodi perygl. PEIDIWCH â mynd i'r dwr o dan unrhyw amgylchiadau os gwelwch faneri coch yn hedfan.
- Hosanau gwynt oren: Mae'r hosanau gwynt hyn yn dweud wrthych am amodau gwynt alltraeth. PEIDIWCH byth â defnyddio cyfarpar chwyddadwy os bydd yr hosan wynt yn hedfan.
Bod yn achubwr bywyd
Mae dyletswyddau achubwyr bywyd yn cynnwys:
- ymateb cyntaf mewn sefyllfaoedd brys
- rhoi cyngor diogelwch cyffredinol ynghylch y traeth
- helpu i ddod o hyd i blant neu oedolion sydd ar goll
- goruchwyliaeth gyffredinol ar y traeth
- patrolio ardaloedd nofio
- rhoi cyngor am is-ddeddfau cwn
Cewch fwy o wybodaeth am draethau Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gwyr ar ein tudalen draethau, neu trwy ein gwefan dwristiaeth.