Y diweddaraf am Fusnes Twristiaeth - 20 Mehefin 2025
Yn cefnogi adferiad ein diwydiant twristiaeth lleol
Arolwg Awdurdod Cyllid Cymru: Cofrestru Cenedlaethol a'r Ardoll Ymwelwyr
Hoffwn eich gwahodd i rannu eich barn am ein gwasanaeth cofrestru cenedlaethol newydd ar gyfer llety i ymwelwyr yng Nghymru, yn ddibynnol ar y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) (Cymru) yn pasio yr haf hwn.
Wrth i'r Bil Llety Ymwelwyr symud trwy ei gam olaf yn y Senedd, rydym ni yn Awdurdod Cyllid Cymru yn dylunio'r system a fydd yn cefnogi cofrestru a'r ardoll ymwelwyr.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Unwaith y bydd y Bil yn pasio, rhaid i unrhyw un sy'n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru ymuno â'n cofrestr genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys:
- holl darparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru, waeth a yw awdurdod lleol yn bwriadu gweithredu ardoll ymwelwyr yn eu hardal au peidio
- llety gwyliau a chartrefi (gan gynnwys Airbnb)
- gwestai, tai llety a gwely a brecwast
- hostelau a thai bync
- gwersylloedd a lleiniau
- carafanau a chabannau gwyliau
- llety digwyddiadau tymor byr, gan gynnwys arosiadau un noson
Sut allwch chi helpu
Cwblhewch ein harolwg byr o 13 cwestiwn erbyn dydd Gwener 18 Gorffennaf 2025. Mae'n ddienw a bydd yn cymryd ychydig funudau:
Arolwg Llety i Ymwelwyr, Mehefin 2025
Yn ogystal â'r arolwg, rydym hefyd yn awyddus i gwrdd â'r mathau canlynol o lety, felly os yw unrhyw un o'r categorïau canlynol yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni:
- parciau carafanau mawr
- gwestai aml-safle ledled y DU
- safleoedd gwersylla a glampio gyda llety amrywiol
- gwyliau a darparwyr llety dros dro
Angen help?
Os oes gennych gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â mi neu e-bostiwch catherine.elms@acc.llyw.cymru
Diolch am eich help. Mae eich adborth yn hanfodol i ddatblygu system effeithiol ar gyfer diwydiant twristiaeth Cymru.
Arolwg Llety i Ymwelwyr, Mehefin 2025
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): fideo esboniwr
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)
Yn galw ar bob busnes sy'n addas i gŵn!
Mae gwyliau sy'n addas i gŵn yn rhan sylweddol o ddiwydiant twristiaeth y DU, ac ar gyfer llawer o ymwelwyr, mae gallu teithio gyda'u hanifail anwes yn ffactor allweddol wrth ddewis cyrchfan.
Mae ein tudalen addas i gŵn yn un o bump o'r adrannau mwyaf poblogaidd ar ein gwefan, ac rydym yn cynllunio post blog newydd a fydd yn gysylltiedig â'n hymgyrch gwyliau sy'n addas i gŵn yn hwyrach eleni i dynnu sylw at ein partneriaid sy'n mynd cam ymhellach i groesawu gwesteion â 4 coes.
Ydy eich busnes yn cynnig ystafelloedd neu ardaloedd dan do sy'n addas i gŵn? Ydych chi'n cynnig danteithion arbennig ar gyfer cŵn (gan gynnwys hufen iâ i gŵn!) neu'n cynnal digwyddiadau sy'n addas i gŵn? Os felly, rydym am glywed gennych!
E-bostiwch eich gwybodaeth at tim.twristiaeth@abertawe.gov.uk a chofiwch gynnwys llun cydraniad uchel o'ch hoff gwsmer ar bedwar coes!
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 30 Mehefin
Cadwch eich anifeiliaid anwes ar dennyn ger da byw yr haf hwn
Mae preswylwyr sy'n mynd allan i gerdded gyda'u cŵn yr haf hwn ar hyd rhwydwaith llwybrau troed gwych Abertawe yn cael eu hannog i gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn ger da byw.
Mae'r cyngor wedi cynhyrchu map rhyngweithiol o lwybrau troed, camfeydd a llwybrau ceffyl sy'n mynd drwy Abertawe a phenrhyn Gŵyr ac yn cynnig rhai o'r golygfeydd gorau yng Nghymru.
Nawr mae'r cyngor yn annog preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddilyn y Côd Cefn Gwlad a sicrhau, os ydyn nhw'n mynd â'u cŵn allan am dro, eu bod yn eu cadw ar dennyn ger da byw.
Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y rhan fwyaf o'r 400 milltir o lwybrau a llwybrau ceffyl gwledig yn croesi caeau ffermwyr, ac mae cŵn sy'n rhedeg yn rhydd oddi ar dennyn yn bryder parhaus mewn mannau lle mae da byw.
Am ragor o wybodaeth am y Côd Cefn Gwlad, gan gynnwys adran ddefnyddiol ar gyngor i berchnogion cŵn, ewch yma: https://naturalresources.wales/days-out/the-countryside-codes/?lang=cy
Am ragor o wybodaeth am y rhwydwaith llwybrau cerdded a'r troeon gorau ym mhenrhyn Gŵyr, ewch yma: www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Blwyddyn Croeso: y newyddion diweddaraf
Wrth inni agosáu at dymor yr haf, rydym yn hyrwyddo Cymru gyda chyfres o ymgyrchoedd cyffrous i ysgogi archebion munud olaf ac ennyn diddordeb hirdymor yng Nghymru fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi.
Darganfyddwch y diweddariadau diweddaraf o ymgyrch Blwyddyn y Croeso
Er mwyn gwneud ein ymgyrchoedd sydd ar ddod yn llwyddiant, mae angen eich help arnom. Rydym yn chwilio am straeon cymhellol, datblygiadau newydd, a phrofiadau unigryw a fydd yn denu sylw'r cyfryngau ac yn arddangos y gorau o Gymru.
MWT Cymru: Gweithio'n agosach gyda Croeso Cymru - Gweminar Cyflwyniadol (Saesneg yn unig) - 24 Mehefin (10:30am)
Bydd MWT Cymru yn cyflwyno awgrymiadau a chyfleoedd gwych, gan gynnwys y Fasnach Deithio, Digwyddiadau Busnes, Achredu Ansawdd a Chysylltiadau Cyhoeddus, yn ogystal â gwybodaeth am Gyfnewidfa Dwristiaeth Prydain Fawr (TXGB), marchnad ddigidol sy'n cysylltu llety, atyniadau, profiadau a theithiau â mwy o gwsmeriaid.
Gweithio'n agosach gyda Croeso Cymru
Towards Carbon Zero: Cwrs Hyfforddiant Lleihau Carbon ac Arbed Ynni ar gyfer busnesau bach a chanolig - 24 Mehefin (9am-4pm), Gorseinon SA4 4AD
Wrth i'r byd ganolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, mae gan fusnesau rôl bwysig i'w chwarae wrth gyrraedd nodau hinsawdd byd-eang. Mae ein cwrs hyfforddi'n ceisio rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i fusnesau bach a chanolig er mwyn iddynt gyflawni niwtralrwydd carbon, meithrin y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a phrisiau ynni cynyddol, a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.
Yn ystod y cwrs hyfforddi, bydd cyfranogwyr yn dysgu am hanfodion lleihau carbon a'r llwybr i allyriadau sero net. Byddwn yn cynnwys pynciau fel effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, cludiant cynaliadwy, lleihau gwastraff a mwy. Yn ogystal, byddwn hefyd yn darparu gweithgareddau ymarferol ac astudiaethau achos i helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddefnyddio'r cysyniadau hyn yn eu busnesau eu hunain.
Mae ein hyfforddwr, Tanya Nash o Future Clarity, yn arbenigwr ym maes cynaladwyedd a lleihau carbon. Bydd yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ar sut i fesur a lleihau allyriadau carbon, a sut i ddatblygu strategaeth lleihau carbon sydd wedi'i theilwra ar gyfer pob busnes.
Mae'r cwrs hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer busnesau bach a chanolig o unrhyw sector sydd â diddordeb mewn lleihau eu hôl troed carbon a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Sgiliau I Abertawe - 26 Mehefin
Mae Sgiliau ar gyfer Abertawe yn cynnig sesiynau hyfforddi hanner diwrnod am ddim sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau digidol unigolion sy'n byw neu'n gweithio yn Abertawe.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n gweithdai am ddim? Porwch ein sesiynau sydd i ddod a gwnewch gais i ymuno isod.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU.
Rhaid i chi fod yn 19 oed neu hŷn, yn byw neu'n gweithio yn Abertawe heb fod mewn addysg llawn amser. Preswylwyr neu weithwyr Abertawe 19+ oed sy'n ceisio gwella eu sgiliau llythrennedd digidol a thechnoleg.
Dyddiadau A Thestunau:
- Iau 26 Mehefin - Gweithio Gwell gydag Offer Digidol
- Iau 10 Gorffennaf - Hanfodion Marchnata Digidol
- Iau 21 Awst - Sylfeini Rhaglennu
- Iau 25 Medi - Deallusrwydd Artiffisial yn y Byd Modern
- Iau 23 Hydref - Trin Data
- Iau 20 Tachwedd - Gweithio Gwell gydag Offer Digidol
- Iau 4 Rhagfyr - Sylfeini Rhaglennu
Dydd Sadwrn y Busnesau Bach 100 - Bydd y ceisiadau'n cau ddydd 30 Mehefin
Mae'r ceisiadau ar gyfer 100 Busnes Bach eleni bellach ar agor yn swyddogol!
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy'n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, 6 Rhagfyr 2025.
Mae'r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi ymuno â thîm Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn Llundain mewn derbyniadau yn Stryd Downing ac yn y Trysorlys gyda Changhellor y Trysorlys.
Bydd y ceisiadau'n cau ddydd 30 Mehefin 2025.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Small Business Saturday UK
Sioe Awyr Cymru (5-6 Gorff): gwnewch y mwyaf ohoni i'ch busnes!
Cynhelir Sioe Awyr Cymru, y digwyddiad am ddim mwyaf yng Nghymru, ar 5-6 Gorffennaf, ac mae'n siŵr o ddenu miloedd o ymwelwyr i'r ardal.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu sylw at y digwyddiad mawr hwn ar eich gwefan, eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, eich taflenni, eich bwydlenni, etc, er mwyn annog pobl i gadw lle yn gynnar!
Os ydych yn un o bartneriaid Croeso Bae Abertawe, gallwch lanwytho eich 'Argaeledd Hwyr' ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y penwythnos hwnnw i'ch tudalen. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut i wneud hynny, mae croeso i chi e-bostio Tourism.Team@abertawe.gov.uk.
Gallwch hefyd sicrhau stondin fasnach am y penwythnos - mae prisiau'n dechrau o £352 am ddau ddiwrnod.
Fel arall, gallwch hysbysebu eich busnes ar ap Sioe Awyr Cymru, sydd wedi cael ei lawrlwytho 24,000 o weithiau hyd yn hyn, am £120 + TAW yn unig.
E-bostiwch catrin.james@abertawe.gov.uk
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr atyniadau a'r arddangosiadau a gadarnhawyd ar gyfer Sioe Awyr Cymru, ewch i walesnationalairshow.com/cy
Teithiau Distyllfa Gwaith Copr Abertawe Penderyn: Cynnig Hanner Pris i Bartneriaid Twristiaeth
Mae Distyllfa Penderyn yn cynnig côd disgownt unigryw i'n partneriaid masnachol ym maes twristiaeth i fwynhau taith o amgylch Distyllfa Gwaith Copr Abertawe am hanner pris.
Cewch gyfle i ddysgu am sefydlu Penderyn, sut mae'r wisgi arobryn yn cael ei wneud a pham mae'n unigryw. Byddwch hefyd yn gweld y twnnel copr, sy'n adlewyrchu hanes y safle, yn ogystal â'r felin, y gasgen fragu, distyllyron potiau copr sengl arloesol Penderyn Faraday a phâr o ddistyllyron pot. Ar ddiwedd y daith, ceir cyfle i roi cynnig ar rai o'r cynhyrchion yn y bar blasu!
Cynhelir teithiau o ddydd Iau i ddydd Sadwrn.
Prif arferol tocyn i oedolyn yw £19.50 - ond bydd y côd disgownt unigryw hwn yn eich galluogi i dalu £9.75 fesul oedolyn, neu £8 ar gyfer tocyn consesiynol (pobl dros 60 oed a myfyrwyr).
Mae'r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer hyd at ddau berson fesul archeb a bydd ar gael tan ddydd Sul 31 Awst 2025.
Archebwch docyn yma gan ddefnyddio'r côd disgownt STTD50
Sioeau Busnes Cymru 2025 - 14 Hydref, Stadiwm Swansea.com
Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae'n cynnwys tair sioe genedlaethol.
Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau.
Mae'r sioeau'n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy'n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio.
Dyddiadau a lleoliadau eleni yw:
- 10 Gorffennaf 2025 - Parc y Scarlets, Sir Gaerfyrddin
- 14 Hydref 2025 - Stadiwm Swansea.com, Abertawe
Mae'r sioeau am ddim os ydych chi'n cofrestru ymlaen llaw, ac mae cyfleoedd hefyd i arddangos.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: The Welsh Business Shows - Business Expo Wales | TWBS
Ymunwch â'n hymgyrch i warchod morloi drwy ein gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog
Mae ymwelwyr â thraethau hardd ar draws Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn cael eu hannog i ymuno â gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog er mwyn gwarchod morloi sy'n byw o amgylch yr arfordir.
Mae'r creaduriaid ciwt a chwilfrydig hyn yn byw ar frigiadau creigiog o amgylch Gŵyr, ond mae eu bywydau'n cael eu peryglu gan y cylchynau hedegog sydd wedi'u taflu, a all eu dal o amgylch eu gyddfau.
Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi bod yn gweithio gyda Grŵp Morloi Gŵyr, ysgolion a busnesau lleol ym mhenrhyn Gŵyr i hyrwyddo'r gwaharddiad ar ôl pasio hysbysiad o gynnig sy'n anelu at roi diwedd ar ddefnyddio'r cylchynau mewn unrhyw le ger bywyd gwyllt ar hyd arfordir yr ardal.
Mae Grŵp Morloi Gŵyr yn parhau i ymweld ag ysgolion yn yr ardal i siarad â phobl ifanc am forloi a bywyd morol arall, gan dynnu sylw at sut y gallant gefnogi'r ymdrech.
Dywedodd na all y creaduriaid ryddhau eu hunain o'r cylchynnau hyn ac wrth iddynt dyfu, mae'r cylchyn yn tynhau, yn cyfyngu ar eu symudiad ac yn aml yn achosi poen, dioddefaint ac, yn y pen draw, marwolaeth.
Ymunwch â'n hymgyrch i warchod morloi drwy ein gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog
Dewch yn Dywysydd Twristiaid
Mae Tywyswyr Gorau Cymru / WOTGA yn recriwtio ar gyfer cwrs Bathodyn Gwyrdd De-orllewin Cymru.
Gwnewch gais nawr (Saesneg yn unig)
Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls
A oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau am brosiect amddiffynfeydd môr y #Mwmbwls?
Bydd y contractwyr Knights Brown - ar ein rhan ni - yn hapus i'w clywed.
A wnewch chi e-bostio eich sylwadau i MumblesCPS@knightsbrown.co.uk neu ffonio 07818432183.
Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls
Hyrwyddwch eich busnes twristiaeth neu letygarwch am ddim ar wefan croesobaeabertawe.com
Ydych chi'n fusnes twristiaeth neu letygarwch yn Ninas a Sir Abertawe?
Os felly, gallech fod yn gymwys i gael eich cynnwys ar wefan swyddogol y cyrchfan, croesobaeabertawe.com, am ddim.
Mae'r wefan, a gynhelir gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe, yn cael ei defnyddio ar gyfer ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn er mwyn denu ymwelwyr newydd ac ymwelwyr dychwel i'r ardal.
Gall gweithredwyr llety lleol, atyniadau, darparwyr gweithgareddau a busnesau bwyd a diod sydd am ddod yn bartneriaid Croeso Bae Abertawe a manteisio ar amrywiaeth o fuddion restru eu busnes am ddim.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk neu cofrestrwch eich busnes yma.
Digwyddiadau gwych sy'n dod i Fae Abertawe yn 2025:
20 Mehefin: Gŵyl Canu Gwlad Campfire
21 Mehefin: Gŵyl Beatmasters
22 Mehefin: Gŵyl We Love It
5-6 Gorff 2025: Sioe Awyr Cymru
13 Gorff 2025: IronMan 70.3 Abertawe
13-14 Awst: Theatr Awyr Agored
6-14 Medi: Gŵyl Gerdded Gŵyr
14 Medi 2025: 10k Bae Abertawe
5 Tach: Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe
Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk