Cynllun Rheoli Cyrchfannau
'Yn ôl ar y trywydd iawn' - Cynllun Rheoli Cyrchfannau Abertawe 2023-2026
Mae Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) newydd Abertawe wedi'i gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Abertawe.
Mae'r CRhC yn dangos pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i'r economi leol a sut mae'n cefnogi busnesau a chyflogaeth ar draws yr ardal, wrth hefyd gyfrannu at iechyd a lles gwell i breswylwyr.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar 4 blaenoriaeth strategol:
- Ysgogi ansawdd
- Torri'n rhydd o natur dymhorol
- Annog cynaladwyedd
- Gweithio mewn partneriaeth
Cymeradwywyd y CRhC newydd gan Gabinet Cyngor Abertawe ar 19 Hydref 2023 a gallwch bellach ei lawrlwytho isod:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y CRhC yma:
Cynllun Rheoli Cyrchfan Abertawe 2023-2026 (PDF, 2 MB)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: dmp@swansea.gov.uk. (Does dim fersiwn Gymraeg)