Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisio barn y cyhoedd am yr is-ddeddf traethau sy'n addas i gŵn

Mae is-ddeddf sy'n helpu i reoli'r lleoedd y gall perchnogion anifeiliaid anwes a'u hanifeiliaid ymweld â nhw ym Mae Abertawe yn cael ei hadolygu er mwyn diwallu anghenion pawb sy'n ymweld â'r traeth yn y dyfodol.

dog on lead

Mae Cyngor Abertawe'n awyddus i glywed barn perchnogion cŵn a phobl eraill sy'n defnyddio'r traeth am y cyfyngiadau presennol, sydd ar waith rhwng mis Mai a mis Medi i sicrhau bod cŵn a'u perchnogion ond yn ymweld â rhannau o'r traeth sy'n addas i gŵn.

Mae'r is-ddeddf wedi bod ar waith ers 1991 ac mae wedi helpu i sicrhau y gall perchnogion cŵn ddefnyddio'r traeth, ac mae hefyd yn sicrhau y gall teuluoedd sy'n nerfus o amgylch anifeiliaid ddefnyddio rhannau o'r bae heb boeni y bydd cŵn yno.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae Bae Abertawe'n gyrchfan poblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr, yn enwedig yn ystod yr haf.

"Mae'r is-ddeddf wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi helpu i sicrhau y gall pawb ddefnyddio'r traeth, naill ai gyda'u hanifail anwes neu beidio.

"Ein bwriad yn awr yw edrych ar fanylion yr is-ddeddf a gwrando ar farn y cyhoedd am y cyfyngiadau. Rydym am glywed gan bobl sy'n ymweld â Bae Abertawe, p'un a ydynt yn berchen ar gŵn neu beidio.

"Unwaith y mae'r ymgynghoriad wedi cael ei gynnal, gallwn edrych ar y sylwadau i weld os oes angen i ni ddiwygio'r is-ddeddf bresennol i helpu i wella'r profiad i bawb sy'n mynd i Fae Abertawe."

Am ragor o wybodaeth am y trefniadau 'Cŵn ar y Traeth' ym Mae Abertawe ac ar draethau eraill yng Ngŵyr, ewch i www.abertawe.gov.uk/cwnarytraeth

Mae'r ymgynghoriad ynghylch yr is-ddeddf Cŵn ar y Traeth yn dechrau ar 26 Gorffennaf ac fe'i cynhelir tan 23 Awst. Cliciwch yma i gymryd rhan https://online1.snapsurveys.com/Swanseabay

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Gorffenaf 2024