Traethau sy'n croesawu cŵn yn dychwelyd ar gyfer yr haf
Anogir perchnogion cŵn sy'n bwriadu mynd am dro hamddenol ar hyd draeth yn Abertawe gyda'u hanifail anwes i wirio ei fod yn un sy'n croesawu cŵn.
Daw'r cyngor gan Gyngor Abertawe ar ôl ailgyflwyno'r is-ddeddf flynyddol a ddaeth i rym ar 1 Mai.
Mae'r is-ddeddf, sydd ar waith drwy gydol yr haf tan fis Hydref yn cyfyngu cŵn i draethau penodol yn Abertawe a Gŵyr ac yn cynnwys rhannau o Fae Abertawe.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r is-ddeddf yn ein galluogi i sicrhau bod pawb sy'n ymweld â'r traethau yn Abertawe'n gallu mwynhau'r hyn sydd ar gael.
"Mae'n golygu y gallwn greu nifer da o draethau sy'n croesawu cŵn i'r rheini sydd am fynd â'u hanifeiliaid anwes gyda hwy. Mae hefyd yn golygu bod rhai traethau, gan gynnwys rhannau o Fae Abertawe yn barthau heb gŵn."
Mae presenoldeb yr is-ddeddf yn golygu os yw perchnogion cŵn yn mynd i draethau nad ydynt yn croesawu cŵn maent mewn perygl o dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.
Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Byddwn yn annog perchnogion cŵn i wirio pa draethau sy'n croesawu cŵn fel y gallant osgoi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig. Nid cosbi perchnogion cŵn yw'r nod, ond rydym am sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r detholiad eang o draethau sydd ar gael.
Mae arwyddion wedi'u gosod ar hyd Bae Abertawe i'w gwneud hi'n haws i berchnogion cŵn wybod pa ran o'r traeth maen nhw'n cael mynd arni.
Mae traethau eraill sy'n croesawu cŵn yn cynnwys Pwll Du, Oxwich, Pobbles, Bae y Tri Chlogwyn, Bae Rhosili a Llangynydd.
Gellir gweld rhestr lawn o'r traethau ar wefan y cyngor ac mae arwyddion wedi'u gosod ym mhob traeth sy'n dweud a yw cŵn yn cael mynd yno neu beidio.
Ewch i wefan y cyngor i gael rhagor o wybodaeth yn www.abertawe.gov.uk/cwnarytraeth