Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadwch eich anifeiliaid anwes ar dennyn ger da byw yr haf hwn

Mae preswylwyr sy'n mynd allan i gerdded gyda'u cŵn yr haf hwn ar hyd rhwydwaith llwybrau troed gwych Abertawe yn cael eu hannog i gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn ger da byw.

Dog walk - generic image from Canva

Mae'r cyngor wedi cynhyrchu map rhyngweithiol o lwybrau troed, camfeydd a llwybrau ceffyl sy'n mynd drwy Abertawe a phenrhyn Gŵyr ac yn cynnig rhai o'r golygfeydd gorau yng Nghymru.

Nawr mae'r cyngor yn annog preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddilyn y Côd Cefn Gwlad a sicrhau, os ydyn nhw'n mynd â'u cŵn allan am dro, eu bod yn eu cadw ar dennyn ger da byw.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y rhan fwyaf o'r 400 milltir o lwybrau a llwybrau ceffyl gwledig yn croesi caeau ffermwyr, ac mae cŵn sy'n rhedeg yn rhydd oddi ar dennyn yn bryder parhaus mewn mannau lle mae da byw.

Am ragor o wybodaeth am y Côd Cefn Gwlad, gan gynnwys adran ddefnyddiol ar gyngor i berchnogion cŵn, ewch yma: https://naturalresources.wales/days-out/the-countryside-codes/?lang=cy

Am ragor o wybodaeth am y rhwydwaith llwybrau cerdded a'r troeon gorau ym mhenrhyn Gŵyr, ewch yma: https://www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Mai 2023