Gwelliannau i Fynedfeydd Marchnad Abertawe - Dweud eich Dweud
Rhannwch eich barn am y dyluniadau arfaethedig ar gyfer gwella mynedfeydd allanol Marchnad Abertawe.
Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol e.e. print bras, e-bostiwch citycentremanagement@abertawe.gov.uk
Fel rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i Farchnad Abertawe arobryn, mae cynlluniau i wella 3 mynedfa allanol y farchnad.
Mae'r buddsoddiad hwn yn dilyn llwyddiant ysgubol gosod toiledau cyhoeddus ac ardal eistedd Gardd y Farchnad yng nghanol neuadd y farchnad.
Mae 3 dyluniad gwahanol wedi cael eu datblygu ar gyfer y mynedfeydd ac rydym yn awyddus i glywed eich barn amdanynt.
Sut galla i gymryd rhan?
Mae sawl ffordd o fynegi'ch barn am y cynigion ar gyfer y mynedfeydd.
Bydd arddangosfa a chopïau caled o'r arolwg ar gael o'r Stondin Masnachu Achlysurol yng nghanol y farchnad, gyferbyn â'r rotwnda gocos. Byddant ar gael o'r wythnos sy'n dechrau dydd Llun 10 Chwefror ar gyfer oddeutu 3 wythnos.
I ychwanegu elfen bersonol, bydd aelodau o Dîm y Prosiect wrth law i wrando ar eich barn Dydd Sadwrn 22 Chwefror rhwng 10.30am a 2.30pm yn y Stondin Masnachu Achlysurol, Marchnad Abertawe.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld yr Wybodaeth Allweddol am y cynlluniau ac i gwblhau ein harolwg ar-lein ay'n cau am 11.59pm Nos Dydd Sul 2 Mawrth 2025.
Nodweddion arfaethedig y mynedfeydd
Gwybodaeth allweddol
Lleoliad y mynedfeydd
Mae'r farchnad yng nghanol yr ardal i gerddwyr yng nghanol y ddinas ac mae ganddi 4 mynedfa gyhoeddus, fel a welir isod. Mae'r rhain yn cysylltu'r farchnad â Stryd Rhydychen, Whitewalls, Union Street a Chanolfan Siopa'r Cwadrant.
Mae mynedfa'r Cwadrant, sydd y tu mewn i Ganolfan Siopa'r Cwadrant, y tu hwnt i gwmpas y prosiect hwn gan y bydd hwn yn rhan o gynlluniau ehangach i ailddatblygu'r ardal.
Mae'r lluniau a gynhwysir yn y cynllun yn dangos lleoliad a chyflwr presennol y mynedfeydd allanol y mae angen eu moderneiddio.
Amcanion y prosiect
Bydd y gwelliannau i'r mynedfeydd yn ceisio:
- Gwneud y farchnad yn fwy gweladwy ar y stryd fawr o bob cyfeiriad, drwy ddyluniad amlwg a chreadigol sy'n atgyfnerthu'r brand presennol ac yn helpu i greu ymdeimlad o le pendant.
- Gwella ansawdd ffisegol yr amgylchedd uniongyrchol o fewn ac o gwmpas mynedfeydd y farchnad ar y stryd.
- Rhoi argraff gyntaf lân, atyniadol, hygyrch a chroesawgar sy'n nodweddiadol o farchnad arobryn.
- Gwella diogelwch a swyddogaeth y mynedfeydd i wella safonau cynnal a chadw a helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaleiddio.
- Gwella'r ddarpariaeth arwyddion a gwybodaeth ac eglurder y rhain er mwyn gwella profiad y cwsmer.
- Sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib ar y farchnad, ei masnachwyr, ei chwsmeriaid a'i siopau cyfagos ar gyfer parhad y gwaith adeiladu.
Bydd y gwaith ar y mynedfeydd yn berthnasol i'r prif ardaloedd isod y mae angen rhoi sylw iddynt:
- Lefel uchel - e.e. mast, canopïau, goleuadau
- Lefel isel - e.e. lobïau, waliau, drysau, gwydro, arwyddion
- Lefel y ddaear - e.e. lloriau, matiau
- Diogelwch - e.e. caeadau
Statws y prosiect
Yn dilyn proses gaffael gadarn, penodwyd, Tangent Partnership Ltd i gefnogi'r cyngor i ddarparu mynedfeydd gwell ar gyfer y farchnad.
Gweithiodd Tangent gyda'r farchnad i ddarparu'r ardal eistedd boblogaidd, Gardd y Farchnad, yng nghanol neuadd y farchnad, ac ers hynny mae'r cwmni wedi ymgymryd â'r gwaith canlynol:
Cynnal a chadw adeileddol
Mae gwaith cychwynnol wedi'i wneud i dynnu hen ganopïau'r farchnad a thrin y gwaith metel, a fydd yn gweithredu fel sylfaen gadarn ar gyfer y dyluniad newydd a ddewisir.
Arwyddion
Mae ymarfer cwmpasu ar yr arwyddion wedi hen ddechrau, a'r nod yw cael gwared ar anrhefn, symleiddio negeseuon, gwella eglurder a helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i'r ffordd, yn enwedig mewn perthynas â'r rheini ag anghenion hygyrchedd.
Cyllideb a rhaglen
Ar y cyd â datblygu'r 3 chysyniad dylunio, mae Tangent yn casglu costau cyllidebu ar gyfer yr elfennau amrywiol o'r gwaith i sicrhau y gellir cyflawni'r cynigion yn ymarferol erbyn gwanwyn 2025 ac o fewn cyllideb y prosiect sef £240,000.
Er y bydd Tîm y Prosiect yn mwyafu'r arian sydd ar gael i wella'r mynedfeydd, efallai na fydd modd cyflawni cwmpas llawn y dyluniadau oherwydd rhesymau cyllidebol, ac felly gall fod angen rheoli costau mewn rhai ardaloedd.
Mae Tangent hefyd yn cysylltu â chyflenwyr amrywiol mewn perthynas â'r fethodoleg ar gyfer cyflawni a sut gall y rhaglen waith edrych. Er taw'r ffocws yw achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosib i neuadd y farchnad, bydd peth tarfu yn anochel oherwydd natur y gwaith.
Cysyniadau dylunio ac ymgynghoriad
Mae 3 chysyniad dylunio amlwg a chreadigol wedi cyrraedd y rhestr fer ac wedi bod yn destun gwaith ymgysylltu cynnar â'r adran gynllunio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau a rheoliadau angenrheidiol.
Cysyniadau dylunio
Adolygwch y 3 chysyniad dylunio er mwyn dewis eich hoff un a rhowch adborth. (PDF, 1 MB)
Nodweddion arfaethedig y mynedfeydd
Dweud eich dweud!
Mae proses ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol bellach yn mynd rhagddi tan 2 Mawrth 2025, gan roi'r cyfle i roi adborth a dewis eich hoff ddyluniad.
Rydym hefyd yn awyddus i glywed eich adborth am y nodweddion allweddol sy'n cael eu hystyried yn ogystal â'r prif gynlluniau a'r cynllun lliw arfaethedig, yn ogystal ag unrhyw awgrymiadau ymarferol rydych yn meddwl y dylem eu hystyried fel rhan o'r gwaith i'r mynedfeydd a/neu syniadau i wella'r farchnad yn y dyfodol.
Dyma sut gallwch gymryd rhan:
Cwblhewch yr arolwg ar-lein yma
Dyddiad cau: 11.59pm, 2 Mawrth 2025
- Ewch i'r arddangosfa a chwblhewch arolwg papur yn y Stondin Masnachu Achlysurol ym Marchnad Abertawe (gyferbyn â'r rotwnda gocos).
- Gallwch sgwrsio â Thîm y Prosiect, yn y Stondin Masnachu Achlysurol ym Marchnad Abertawe (gyferbyn â'r rotunda gocos), rhwng 10.30am a 2.30pm ar Ddydd Sadwrn 22 Chwefror, 2025.
Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd Tîm y Prosiect yn asesu'r adborth a dderbyniwyd er mwyn nodi'r dyluniad cyffredinol a ffefrir ac i wneud newidiadau priodol i'r dyluniad hwn lle bo hynny'n ymarferol.
Bydd hyn yn caniatáu i ni baratoi cais cynllunio, cytuno ar raglen waith derfynol, tendro ar gyfer contractau a chadarnhau costau ar gyfer pob rhan o'r cynllun.
Bydd diweddariadau prosiect yn cael eu darparu ar wefan Marchnad Abertawe.