Toglo gwelededd dewislen symudol

Dwysedd poblogaeth

Ystadegau poblogaeth Abertawe ac ardaloedd lleol.

Mae amcangyfrifon dwysedd poblogaeth ar gael ar gyfer Abertawe a'i hardaloedd lleol, gan gynnwys wardiau ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is a Chanol (ACEHI ac ACEHG).  Mae'r ffigyrau hyn yn deillio o rannu'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol ag arwynebedd y tir mewn cilometrau sgwâr.  Mesurir arwynebedd y tir ar y penllanw cymedrig ac eithrir ardaloedd lle mae dŵr mewndirol, fel a argymhellir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat.

Cynhwysir ffigurau dwysedd poblogaeth (a'r amcangyfrifon cyfanswm poblogaeth ac arwynebedd tir ategol) yn y ffeil (Excel doc) [131KB] sydd ar y dudalen hon, sy'n cynnwys y taflenni gwaith canlynol ar wahân:

  • Dinas a Sir Abertawe, 1991 i canol 2022
  • Awdurdodau lleol yng Nghymru, canol 2022
  • Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn Abertawe, canol 2022
  • Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yn Abertawe, canol 2022
  • Wardiau etholiadol yn Abertawe, canol 2022.

Dwysedd cyfartalog poblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 639 o bobl y cilometr sgwâr (amcangyfrif canol 2022), sef y pedwerydd uchaf o 22 o ardaloedd awdurdod lleol Cymru (cyfartaledd: 151 o bobl y cilometr sgwâr).  Yn Abertawe, mae amcangyfrifon dwysedd poblogaeth lleol yn amrywio'n sylweddol gan ddibynnu ar y ddaearyddiaeth ardaloedd bach a ddefnyddir:

  • Ar gyfer wardiau, mae gwerthoedd yn amrywio o 32 o bobl y cilometr sgwâr (ar gyfer ward Gŵyr) i 6,421 o bobl y km sgwâr (ward Uplands).
  • ACEHG: o 49 o bobl y km sgwâr (Abertawe 030 - 'Gorllewin Gŵyr') i 8,897 o bobl y km sgwâr (Abertawe 026 - 'Brynmill').
  • ACEHI: o 29 o bobl y km sgwâr (ACEHI Gŵyr 2) i 15,168 o bobl y km sgwâr (ACEHI 'Uplands 9').

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr amcangyfrifon dwysedd poblogaeth neu ystadegau poblogaeth eraill, cysylltwch â ni.