Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dymchweliadau

Rheolir y rhan fwyaf o waith dymchwel o dan adrannau 80, 81 ac 82 o Ddeddf Adeiladu 1984. Gall fod angen caniatâd y cyngor o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.

Mae Rheoli Adeiladau Abertawe yn gweithio er mwyn sicrhau bod y dasg o ddymchwel adeiladau yn cael ei wneud yn ddiogel a chyda chyn lleied o anghyfleustra â phosib i'r cyhoedd.

Bydd angen i'r person sy'n gwneud y gwaith dymchwel roi gwybod yn ffurfiol i'r cyngor a pherchnogion unrhyw adeileddau cyfagos ei fod yn bwriadu gwneud gwaith dymchwel.

Yn ôl yr angen, gall fod angen y canlynol arnom:

  • ategu a diddosi adeiladau cyfagos y gallant fod wedi dod yn ddigysgod o ganlyniad i'r gwaith dymchwel
  • symud deunyddiau a sbwriel o safle'r gwaith dymchwel
  • datgysylltu a selio draeniau
  • gwella arwyneb y tir yr oedd yr adeilad yn sefyll arno.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod eich bod yn bwriadu gwneud gwaith dymchwel, neu os na fyddwch yn bodloni gofynion y cyngor, gellid rhoi dirwy i chi.