Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgwyr anabl - Strategaeth Hygyrchedd 2024 / 2027 (Hawdd ei Ddeall)

Ein cynlluniau ar gyfer gwneud ein hysgolion y fwy hygyrch i ddysgwyr anabl.

Cynnwys

Beth sydd yn y llyfryn yma
Ein cynllun
Beth rydyn ni'n ei ddarganfod
Beth sydd angen i ni ei wneud
Pryd y byddwn yn gwneud y pethau yn y cynllun yma
Geiriau anodd

 

Beth sydd yn y llyfryn yma

Ni ydy Cyngor Abertawe.

Rydyn ni eisiau gwneud ein hysgolion yn fwy hygyrch i ddysgwyr anabl.

Mae ysgolion hygyrch yn ysgolion y mae plant a phobl ifanc yn gallu eu defnyddio'n hawdd. Beth bynnag ydy eu hanghenion. Mae'n meddwl pethau fel:

  • Gallu mynd i mewn i'r adeilad a symud o'i gwmpas yn hawdd.
  • Cefnogaeth ar gyfer eu hanghenion unigol.
  • Deall gwybodaeth ysgrifenedig a gwersi.

Mae'n rhaid i ni wneud hyn fel rhan o gyfraith cydraddoldeb.

Mae cydraddoldeb yn meddwl trin pobl yn deg a gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd. Mae cyfreithiau cydraddoldeb yn ddeddfau sy'n gwneud yn siŵr nad ydy pobl yn cael eu trin yn annheg.

Mae'n rhaid i ni:

  1. Gwneud yn siŵr bod dysgwyr anabl yn gallu ymuno ym mhopeth. Mae hyn meddwl gwersi, clybiau a thripiau.
  2. Gwneud adeiladau'r ysgol yn well ac yn fwy hygyrch.
  3. Gwneud gwybodaeth yn haws ei deall.

Mae'r rhain yn cael eu galw yn 3 dyletswydd cynllunio.

Rydyn ni yn gwybod nad dysgwyr anabl ydy'r broblem. Dydyn nhw ddim yn cael eu hanalluogi gan eu cyflyrau, namau neu anghenion.

Mae dysgwyr anabl yn cael eu hanalluogi gan bethau fel:

  • problemau gydag adeiladau'r ysgol.
  • sysemau a phrosesau - y ffordd y mae pethau'n cael eu sefydlu.
  • agweddau. Er enghraifft, rhywun yn meddwl bod dysgwr anabl yn methu gwneud rhywbeth, dim ond oherwydd ei nam.

Mae yna lawer o wahanol fathau o anabledd. Mae gan rai plant a phobl ifanc anable Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd.

Mae Anghenion Dysgy Ychwanegol yn cael ei alw yn ADY. Mae plant a phobl ifanc gyda ADY angen cymorth ychwanegol i ddysgu. Mae hyn yn gallu bod oherwydd:

  • Mae ganddyn nhw gyflwr neu nam sy'n meddwl eu bod nhw angen cymorth ychwanegol.
  • Maen nhw'n ei chael hi'n fwy anodd dysgu na phlant a phobl ifanc eraill yr un oedran.
  • Mae ganddyn nhw gyflwr neu nam sy'n meddwl bod angen iddyn nhw fynd i ysgol arbennig.

Mae gan Abertawe lawer o ffyrdd i helpu:

Mae gan rai ysgolion ardaloedd addysgu ar wahân ar gyfer dysgwyr ag anghenio uchel.

Mae gennym ddwy ysgol arbennig.

Rydyn ni yn edrych ar y gwasanaethau yma ac yn eu newid lle mae angen.

Rydyn ni eisiau i blant a phlant anabl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ddysgu mor agos i'w cartref ag y'n bosibl.

Mae rhai o'n hysgolion mwy newydd yn Abertawe yn hygyrch. Mae rhai ysgolion yn rhannol hygyrch.

Mae eraill angen llawer o newidiadau i'w gwneud yn hygyrch oherwydd bod yr adeiladau'n hŷn.

Mae pob plentyn yn wahanol. Maen nhw'n dysgu mewn gwahanol ffyrdd. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod pob plentyn yn Abertawe, gan gynnwys dysgwyr anabl, yn gallu dysgu'n dda.

Ein nod mwyaf ydy i bob plentyn a pherson ifanc gael yr un cyfleoedd i ddysgu.

Rydyn ni eisiau i bawb yn Abertawe gael y sgiliau maen nhw eu hangen ar gyfer bywyd.

Rydyn ni eisiau i bobl gael eu hawliau dynol. Rydyn ni eisiau i bawb ymuno mewn cymdeithas a chael eu trin yn deg.

Y cynllun yma ydy ein cynllun hygyrchedd 3 blynedd ar gyfer pob dysgwr anabl yn ysgolion Abertawe.

 

 

Ein cynllun

Mae'n rhaid i ni feddwl am y 3 dyletswydd cynllunio yn ein cynllun.

Mae hyn yn meddwl mai ein prif amcanion ydy:

1. Gwneud yn siŵr bod dysgwyr anabl yn gallu ymuno ym mhopeth yn yr ysgol gan gynnwys gwersi, clybiau a thripiau

Mae gan ddysgwyr anabl yr un hawliau i ddysgu â phob dysgwr.

Fe ddylai pob dysgwr gael eu trin yn deg, ym mhob rhan o fywyd a dysgu'r ysgol.

Mae hyn yn meddwl gwneud yn siŵr bod dysgwyr anabl yn cael yr help maen nhw ei angen mewn gwersi.

Fe ddylen nhw allu cymryd rhan ym mhob gwers gan gynnwys chawaraeon.

Fe ddylen nhw allu mynd i glybiau a mynd ar deithiau.

2. Gwneud adeiladau'r ysgol yn well ac yn fwy hygyrch

Mae angen gwneud newidiadau i lawer o adeiladau ysgol. Mae hyn er mwyn i ddysgwyr anabl gael mynediad i beth maen nhw ei angen.

Mae hyn yn cynnwys meddwl am faterion sy'n ymwuned â symud o gwmpas, golwg, clyw, a phethau eraill.

Mae angen i ni feddwl am a chynllunio ar gyfer gwahanol rannau o adeilad. Er enghraifft:

  • Ystafelloedd dosbarth
  • Grisiau
  • Toiledau
  • Neuaddau cinoio
  • Lloriau
  • Yr iard a'r gofod tu allan

Mae llawer o bethau yn gallu gwneud adeiladau'n well. Er enghraifft:

  • Rampiau
  • Drysau sy'n agor ar eu pennau eu hunain
  • Lloriau fflat
  • Toiledau hygyrch
  • Parcio i bobl anabl
  • Gwell arwyddion

3. Gwneud gwybodaeth yn haws ei deall

Rydyn ni eisiau i ddysgwyr anabl allu deall gwybodaeth yn hawdd.

Mae gwybodaeth yn haws ei deall os ydy ysgolion yn defnyddio:

  • Hawdd i'w ddeall
  • Print mawr
  • Braille
  • Sain

Fe wnaethon ni'r cynllun yma trwy wrando ar beth mae dysgwyr a rhieni ei eisiau.

 

Beth rydyn ni'n ei ddarganfod

Roedden ni eisiau gwybod beth mae gwahanol bobl a grwpiau'n ei feddwl a'i deimlo am:

  • ein 3 prif nod
  • a pha mor hygyrch ydy ein hysbolion ar gyfer dysgwyr anabl

Dysgwyr anabl:

  • Maen nhw wedi cael llawer o brofiadau gwahanol.
  • Weithiau mae dysgwyr eraill yn eu trin yn wael.
  • Fe wnaethon nhw ddweud fod angen i ysgolion wybod mwy am wahanol anableddau.

Ysgolion:

  • Mae angen diweddaru beth maen nhw'n ei wybod am gyfreithiau anabledd a chydraddoldeb.
  • Mae angen iddyn nhw feddwl mwy am yr holl wahanol fathau o anableddau. Er enghraifft, problemau iechyd meddwl.
  • Mae angen mwy o wybodaeth yn eu cynlluniau hygyrchedd.

Rhieni a gofalwyr dysgwyr anabl:

  • Roedd pobl wedi cael profiadau cymysg. Roedd rhai yn teimlo bod ysgolion wedi eu methu nhw. Roedd eraill yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth.
  • Roedden nhw yn poeni am agweddau gwael.
  • Roedden nhw'n dweud fod angen i ysgolion feddwl mwy am wahanol fathau o anabledd.
  • Maen nhw'n teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw.

 

Beth sydd angen i ni ei wneud

Yn seiliedig ar beth rydyn ni wedi ei ddarganfod, mae angen i ni wneud y pethau yma yn gyflym:

  • Gwneud canllaw i ysgolion am gynlluniau hygyrchedd.
  • Gwneud yn siŵr bod staff mewn ysgolion yn dysgu mwy am anabledd a hygyrchedd.
  • Parhau i wrando ar ddysgwyr anabl a'u rhieni a'u gofalwyr.

Mae angen i ni hefyd gymryd camau pellach i gyflawni'r 3 nod.

1. Gwneud yn siŵr bod dysgwyr anabl yn gallu ymuno

Mae'n rhaid i ni:

  • Hyfforddi staff yr ysgol.
  • Helpu ysgolion i weithio gyda thimau anabledd.
  • Rhannu sut i weithio yn y ffyrdd gorau.

Mae angen i ysgolion:

  • Gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod pwy ydy eu holl ddysgwyr anabl. Fel eu bod nhw yn gallu eu cefnogi i ddysgu'n gyfartal.
  • Gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen fel bod dysgwyr anabl yn gallu dysgu.
  • Rhoi'r offer sydd ei angen ar y dysgwyr.
  • Edrych pa mor dda y mae dysgwyr anabl yn ei wneud yn yr ysgol.

Y pethau pwysicaf i'w gwneud ydy:

  • Gwella hyfforddiant i staff yr ysgol.
  • Gwneud canllawiau i ysgolion i helpu dysgwyr anabl gymryd rhan mewn teithiau, chwaraeon a phethau eraill.

2. Gwneud adeiladau'r ysgol yn well ac yn fwy hygyrch

Mae'n rhaid i ni:

  • Helpu ysgolion i benderfynu beth sydd angen ei newid yn eu hadeiladau.
  • Meddwl am hygyrchedd pan fyddwn ni yn newid neu'n adeiladu ysgolion newydd.
  • Helpu i ddarparu offer arbennig i wella hygyrchedd.
  • Helpu gyda rhai costau.

Mae angen i ysgolion:

  • Edrych pa newidiadau mae angen iddyn nhw eu gwneud a'u gwneud nhw.
  • Talu cam rai costau.

Y pethau pwysicaf i'w gwneud ydy:

  • Rydyn ni yn gwneud canllaw i helpu ysgolion i wneud eu hadeiladau'n fwy hygyrch.
  • Rydyn ni yn adeiladu ysgol arbennig newydd-gan wneud Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn yn 1 ysgol fwy a gwell erbyn 2028.
  • Rydyn ni yn gwneud yn siŵr bod cyfarpar arbenigol yn cael ei ailddefnyddio.

3. Gwneud gwybodaeth yn haws ei deall i ddysgwyr anabl

Mae'n rhaid i ni:

  • Helpu ysgolion i wneud gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd.
  • Dweud wrth ysgolion am helpu ei gilydd a rhannu syniadau da.

Mae angen i ysgolion:

  • Hyfforddi staff i wneud gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd.
  • Edrych yn rheolaidd gyda dysgwyr anabl i weld ydyn nhw'n gallu gwneud yn well.
  • Gofyn am help os oes angen.

Y peth pwysicaf ydy hyfforddi staff i wneud gwersi yn haws i'w deall.

 

Pryd y byddwn yn gwneud y pethau yn y cynllun yma

Fe fydd y cynllun yma yn cymryd tair blynedd.

Fe fyddwn ni yn gwneud rhai pethau ym mhob un o'r tair blynedd.

Cawn weld sut mae'r gwaith yma yn mynd bob tymor. Fe fyddwn yni yn edrych ar y cynllun yma bob blwyddyn.

Fe fyddwn ni yn parhau i wrando ar ddysgwyr anabl a'u rheini a gofalwyr am y gwaith yma.

 

Geiriau anodd

Hygyrch
Mae ysgolion hygyrch yn ysgolion y mae plant a phobl ifanc yn gallu eu defnyddio'n hawdd. Beth bynnag ydy eu hanghenion. Mae'n meddwl pethau fel:

  • Gallu mynd i mewn i'r adeilad a symud o'i gwmpas yn hawdd.
  • Cefnogaeth ar gyfer eu hanghenion unigol.
  • Deall gwybodaeth ysgrifenedig a gwersi.

Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei alw yn ADY. Mae plant a phobl ifanc gyda ADY angen help ychwanegol i ddysgu. Mae hyn yn gallu bod oherwydd:

  • Mae ganddyn nhw gyflwr neu nam sy'n meddwl eu bod nhw angen help ychwanegol.
  • Maen nhw'n ei chael hi'n fwy anodd dysgu na phlant a phobl ifanc eraill yr un oedran.
  • Mae ganddyn nhw gyflwr neu nam sy'n meddwl nad ydyn nhw yn gallu defnyddio'r ysgol neu'r coleg lleol.

Cydraddoldeb
Mae cydraddoldeb yn meddwl trin pobl yn deg a gwneud yn siŵr eu bo yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd. Mae cyfreithiau cydraddoldeb yn ddeddfau sy'n gwneud syn siŵr nad ydy pobl yn cael eu trin yn annheg.

 

Strategaeth Hygyrchedd Cyngor Abertawe (Hawdd ei Ddeall) (PDF)

Strategaeth Hygyrchedd Cyngor Abertawe (Hawdd ei Ddeall).
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Medi 2024