Eich hawliau fel person hŷn
Pan fyddwn yn creu polisïau newydd neu'n diwygio polisïau, rydym yn sicrhau ein bod wedi edrych ar yr effaith ar hawliau plant a phobl ifanc.
Heneiddio'n dda yn Abertawe
Ynghyd â'n partneriaid ar Fwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe a Dinas Iach Abertawe, rydym wedi creu Heneiddio'n Dda a Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2015 - 2019. Mae hwn yn amlinellu ein nodau am ein gwaith gyda phobl hŷn. Trydydd cam y strategaeth yw Byw'n Hwy, Byw'n Well a bydd ar waith rhwng 2013 a 2023. Diben y cam hwn yn y strategaeth yw bod:
- pobl yng Nghymru'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, beth bynnag yw eu hoed.
- gan yr holl bobl hŷn yng Nghymru'r adnoddau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol y mae eu hangen arnynt i fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r heriau maent yn eu hwynebu.
Fel rhan o'r gwaith cynnwys ar y trydydd cam, nododd pobl hŷn yn Ninas a Sir Abertawe, trwy Rwydwaith 50+, y blaenoriaethau allweddol canlynol:
- Iechyd a chefnogaeth
- Cyllid
- Mynd o le i le a gweithgarwch cymdeithasol.
Mae aelodau o Grŵp Cyfeirio Rhwydwaith 50+ yn parhau i gynrychioli pobl hŷn yn Abertawe trwy gydol yr wythnos hon.
Heneiddio'n Dda yng Nghymru
Mae ein Cynllun Gweithredu ar Heneiddio'n Dda a Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn seiliedig ar y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru.
Rhaglen genedlaethol yw Heneiddio'n Dda yng Nghymru a gyflwynir gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae'n dwyn unigolion a chymunedau ynghyd â'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddatblygu a hyrwyddo ffyrdd blaengar ac ymarferol i wneud Cymru'n lle da i heneiddio i bawb.
Nodau'r rhaglen:
- Gwneud Cymru'n lle da i heneiddio i bawb
- Gwneud Cymru'n wlad o Gymunedau sy'n Cefnogi'r Rhai â Dementia
- Lleihau'r achosion o gwympo
- Lleihau unigrwydd ac unigedd digroeso
- Cynyddu cyfleoedd dysgu a chyflogaeth.