Ein gwerthoedd a'n hegwyddorion
I roi'r ansawdd bywyd gorau posib i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol, mae angen i ni feddwl beth fydd effaith tymor hir ein penderfyniadau.
Mae ein cynlluniau'n seiliedig ar dri gwerth clir a fydd yn arwain y ffordd rydym yn gweithio, sut byddwn yn datblygu fel sefydliad a'n penderfyniadau yn y blynyddoedd i ddod.
Ffocws ar Bobl
Byddwn yn canolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau cymunedau ac ar wella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe. Byddwn hefyd yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ein gweithwyr ac yn dangos y safonau uchaf o
gywirdeb.
Gweithio gyda'n gilydd
Byddwn yn hyrwyddo ymagwedd partneriaeth gyfan, gan weithio ar draws gwasanaethau i wneud y mwyaf o adnoddau a gwybodaeth a byddwn yn gweithio gydag eraill y tu allan i'r cyngor i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ein hadnoddau er mwyn cael y gwasanaethau gorau ar gyfer ein cymunedau.
Arloesedd
Byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi diwylliant blaengar. Byddwn yn meddwl ac yn gweithio'n wahanol i wella ein gallu i gyflawni ac i ymdopi â'r heriau ariannol, demograffig a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu. Byddwn yn rhannu arfer da ar draws y cyngor fel rhan o'n Rhaglen Arloesedd.