Toglo gwelededd dewislen symudol

Eiriolaeth

Cefnogaeth annibynnol a phroffesiynol i'ch helpu i ddeall eich hawliau, gwneud penderfyniadau gwybodus am eich bywyd, a'ch cefnogi i leisio barn am yr hyn sy'n bwysig i chi.

I rai pobl, gall fod yn anodd mynegi sut rydych chi'n teimlo, ac efallai eich bod chi'n meddwl nad yw eich llais yn cael ei glywed. Mae eiriolaeth yn ymwneud â sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Mae eiriolaeth yn golygu deall y broses rydych chi'n rhan ohoni a gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y pen draw.

Gall rhai pobl wneud hyn drostynt eu hunain, a gall eraill fod angen cymorth gan deulu, ffrindiau, neu weithwyr proffesiynol fel Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys, neu Therapyddion Galwedigaethol. Fodd bynnag, mae adegau pan fydd angen eiriolwr annibynnol ar bobl i'w helpu i sicrhau bod pobl yn eu clywed, a dyma le mae angen Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA).

Gall eiriolwyr eich helpu i ddeall eich hawliau, gwneud penderfyniadau gwybodus am eich bywyd, a'ch cefnogi i fynegi'ch barn am bethau sy'n bwysig i chi, a gall hyn gynnwys eich cefnogi gyda:

  • Deall sut mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn gweithredu
  • Siarad â gweithiwr proffesiynol am eich sefyllfa
  • Tynnu sylw at yr opsiynau sydd ar gael i chi, fel Taliad uniongyrchol.
  • Bod yn ymwybodol o'ch hawliau
  • Eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir
  • Siarad â chi os ydych chi'n anhapus

Mae eiriolwyr yn cael eu harwain gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 i helpu'r rhai y mae angen cefnogaeth arnynt.
Os na all eiriolwr roi'r gefnogaeth gywir i chi, bydd yn eich helpu i ddod o hyd i'r gwasanaeth gorau i chi.

Gwahanol fathau o eiriolaeth

Mae na nifer o wahanol fathau o Eiriolaeth a nodir yng Nghod Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mynediad at Eiriolaeth

Mae'r awdurdod lleol yn cael ei harwain gan y gyfraith mewn berthynas â phryd mae angen eiriolaeth

Sut i gael cefnogaeth

Rydym am helpu i sicrhau eich bod yn dod o hyd i'r Eiriolwr cywir i chi

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mai 2024