Toglo gwelededd dewislen symudol

Elusennau a chodi arian

Mae trwyddedau casglu elusennol yn awdurdodi'r bobl sy'n casglu, yn sicrhau y cesglir yr arian yn ddiogel ac y rhoddir cyfrif am y cyfanswm a gesglir.

Mae angen nifer o drwyddedau gwahanol wrth gasglu arian elusennol.

Casgliadau o dŷ i dŷ

Os ydych yn bwriadu casglu arian elusennol o ddrws i ddrws, o siop i siop neu o dafarn i dafarn, mae angen trwydded o dŷ i dŷ arnoch.

Casgliadau elusennol ar y stryd

Bydd angen trwydded casglu ar y stryd ar gyfer unrhyw gasgliad elusennol mewn man cyhoeddus, os yw ar stryd gyhoeddus ai peidio.

Loterïau a rafflau

Os yw'ch sefydliad yn trefnu loteri neu raffl, bydd angen tystysgrif cofrestru arnoch gennym ni.
Close Dewis iaith