Llyfrgelloedd poblogaidd yn gweld cynnydd enfawr yn nifer yr ymwelwyr
Mae nofelau cyffrous gan awduron enwog fel Richard Osman wedi helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n benthyca llyfrau o lyfrgelloedd cymunedol Abertawe.
Mae'r 17 o lyfrgelloedd cymunedol yn y ddinas wedi gweld cynnydd mawr o dros 600% yn nifer y llyfrau a fenthycwyd yn 2022, yn ôl eu hadroddiad blynyddol diweddaraf.
Ar ben hynny mae eu gwerth yn ystod y pandemig ac ers hynny fel hybiau cymunedol ar gyfer cymdeithasu, digwyddiadau cymunedol ac amserau rhigwm i blant wedi ennill canmoliaeth fawr gan ddefnyddwyr, gyda 95% o ymatebwyr i'r arolwg yn dweud bod llyfrgelloedd yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau.
Meddai Elliot King, Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb, Hawliau Dynol a Diwylliant, "Does neb yn Abertawe yn byw mwy nag ychydig filltiroedd i ffwrdd o'u llyfrgell leol. Ac yn ystod yr argyfwng costau byw, maent wedi dod yn hwb cymunedol pwysig iawn a chânt eu caru gan y rheini sy'n eu defnyddio.
Mae'r nofelydd Richard Osman, sef yr Agatha Christie fodern, yn ffefryn ymhlith y rheini sy'n mwynhau darllen, gan fynd i frig y siartiau llyfrau i oedolion gyda 'The Bullet that Missed'. Mae 'Room on the Broom' gan Julia Donaldson a 'Captain Underpants' gan Dave Pikey wedi bod yn boblogaidd iawn gyda darllenwyr ifanc brwdfrydig.
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau llyfrgell a'r hyn y gallant ei gynnig i chi, ewch i www.abertawe.gov.uk/llyfrgelloedd