Faith in Families
Mae elusen Faith in Families yn trawsnewid bywydau ar draws Bae Abertawe drwy ganolfannau cwtsh cymunedol a banciau pob dim. Mae'n darparu cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd y maen nhw'n wynebu heriau fel tlodi, argyfwng a thrawma.
Mae'r ystod o wasanaethau sydd ar gynnig yn cynnwys grwpiau i rieni a phlant bach, therapi un i un i blant, cefnogaeth i rieni a phlant bach, gwaith allgymorth a chymorth gartref.
Sefydlwyd Faith in Families ym 1999, ac mae'n cwmpasu tair canolfan cwtsh cymunedol yn ardal Abertawe. Mae pob lleoliad mewn ardal ddifreintiedig yn Abertawe, a'r nod yw darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd yn y gymuned. Mae'r elusen hefyd yn cynnal banc pob dim cyntaf Cymru.