Fan camera
Defnyddir fan camera gorfodi parcio i helpu i leihau parcio anghyfreithlon yn Abertawe.
Mae fan camera Dinas a Sir Abertawe wedi'i farcio'n glir. Mae ganddo gamera a thechnoleg adnabod rhif cofrestru awtomatig er mwyn cofnodi unrhyw dramgwyddau parcio.
Defnyddir y fan i orfodi'r cyfyngiadau canlynol:
- marciau igam-ogam 'cadwch yn glir' y tu allan i ysgolion.
- safleoedd bysus.
- clirffyrdd.
- croesfannau i gerddwyr â linellau igam-ogam.
- gwaharddiad llwytho.
Gall y cerbyd weithredu saith niwrnod yr wythnos rhwng 7.00am a 10.00pm a gellir ei anfon i leoliadau penodol lle mae parcio anghyfreithlon wedi achosi problemau, er enghraifft y tu allan i ysgolion.
Mae gan Ddinas a Sir Abertawe'r hawl i orfodi cyfyngiadau eraill fel y bo'n briodol.