Ymgyrch leol yn ceisio dod â HIV i ben
Mae ymgyrch leol sy'n ceisio trawsnewid y ffordd yr amgyffredir HIV wedi'i chroesawu i bartneriaeth fyd-eang a sefydlwyd i roi terfyn ar drosglwyddo'r cyflwr erbyn diwedd y degawd.
Sefydlwyd 'Fast Track Bae Abertawe' bum mis yn ôl i herio daliadau hen ffasiwn am HIV ac AIDS fel rhan o ymdrech newydd i dorri trosglwyddiad HIV mewn cymunedau lleol i sero erbyn diwedd y degawd.
A nawr, mae wedi ymuno â rhwydwaith rhyngwladol o 500 o ddinasoedd o gwmpas y byd sydd wedi llofnodi Datganiad Paris ar HIV er mwyn mynd ar y llwybr carlam i leihau trosglwyddiad yr haint.
Meddai Elliot King, cadeirydd Fast Track Bae Abertawe, ac aelod cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer cydraddoldeb a diwylliant, "Ystyriwyd HIV ac AIDS gynt fel dedfryd o farwolaeth i unrhyw a oedd yn cael y diagnosis. Ond nid yw hynny'n wir, ac nid yw wedi bod yn wir ers blynyddoedd.
"Diolch i driniaeth effeithiol a ddatblygwyd dros y 40 mlynedd diwethaf, gall pobl â HIV fyw'r bywydau y dymunant heb ei drosglwyddo i unrhyw un arall."
Mae Fast Track Bae Abertawe yn dod â grwpiau cymunedol, ymgynghorwyr meddygol y GIG, nyrsys arbenigol, Cyngor Abertawe a sefydliadau gwirfoddol at ei gilydd.
Dywedodd Sarah Maslen, swyddog datblygu ar gyfer Fast Track Bae Abertawe, fod y sefydliad wedi dod yn bell mewn pum mis yn unig a bod llofnodi Datganiad Paris yn ymrwymiad i fynd ymhellach ac yn gyflymach yn y blynyddoedd sy'n dod.
Meddai, "Mae'n deimlad aruthrol fy mod wedi bod yn dyst i lofnodi Datganiad Paris yn ystod Mis Hanes LHDT+ y llynedd."
I gael rhagor o wybodaeth am Fast Track Bae Abertawe, e-bostiwch y tîm yma: fasttrackswansea@hiv.wales pont-lliw