Fframwaith siarter cwsmeriaid a safonau gwasanaeth
Mae Siarter Cwsmeriaid Cyngor Abertawe, ynghyd â'n Safonau Gwasanaeth cyhoeddedig, yn cyflwyno ein fframwaith ar gyfer egluro sut y byddwn yn bodloni disgwyliadau ein preswylwyr.
Siarter cwsmeriaid a safonau gwasanaeth (Word doc) [160KB]
Siarter cwsmeriaid
Mae'r fframwaith yn rhoi datganiadau clir a chryno, sy'n manylu ar ffyrdd y gallwn fesur a monitro lefelau gwasanaeth.
Mae'r Safonau Gwasanaeth yn egluro'r hyn a ddarperir gan bob gwasanaeth rheng flaen. Maent hefyd yn dweud faint o amser gymerwn ni i ddelio â'ch ymholiad. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn gwbl fodlon â'r gwasanaeth y byddwch yn ei dderbyn yn unol â'n Safonau.
Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i roi ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn ac rydym yn croesawu eich adborth ar sut y gallwn wella ein gwasanaethau.
Mae ein fframwaith Siarter Cwsmeriaid yn nodi beth yw ein haddewidion wrth i ni gyflenwi gwasanaethau o ansawdd uchel ar eich cyfer, a'r safonau gwasanaeth y byddwn yn eu darparu er mwyn i ni allu bodloni eich disgwyliadau.
Ein haddewidion
Byddwn yn:
- Darparu gwasanaethau o ansawdd ar eich cyfer
- Sicrhau ein bod yn defnyddio iaith glir a bod gennym staff wedi'u hyfforddi i ateb eich cwestiynau
- Bod yn onest, yn ei gwneud yn hawdd i chi ddod atom, yn gwrtais, gan gadw eich anghenion wrth wraidd popeth a wnawn
- Cydnabod ac yn ymateb o fewn yr amser a nodir yn ein Safonau Gwasanaeth
- Ceisio ateb eich ymholiad wrth y pwynt cyswllt cyntaf a hysbysebir gennym lle bynnag y bo modd
- Sicrhau bod yr wybodaeth a gewch yn gywir, yn gyfredol ac yn ddwyieithog lle bo angen
- Darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen pan ofynnir amdanynt
- Cyflenwi gwasanaethau mewn ffordd sy'n cynnig gwerth da am arian i'r gymuned
- Eich cynnwys chi wrth ddylunio a chyflenwi ein gwasanaethau lle bynnag y bo modd
Pan fydd angen i chi gael mynediad at wasanaethau ar-lein, byddwn yn:
- Darparu gwasanaethau ar-lein sy'n hawdd i chi eu defnyddio, yn hygyrch a dwyieithog, gyda'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch mewn un lle
- Cyhoeddi ystod o gyfeiriadau gwe ac e-byst fel y gallwch gael mynediad cyflym at wasanaethau neu gysylltu â swyddogion
- Rhoi gwasanaethau ar-lein diogel a dibynadwy i chi
- Helpu'r preswylwyr hynny na allant ddefnyddio sianeli ar-lein gyda chefnogaeth wyneb yn wyneb a thros y ffôn
Os byddwch yn anfon e-bost atom, pan fyddwn yn ymateb, byddwn yn:
- Eglur, yn defnyddio iaith glir, ac yn ymateb yn ddwyieithog lle bo'n briodol
- Ymateb o fewn yr amser a nodir yn ein Safonau Gwasanaeth
Os byddwch yn ffonio'r Cyngor, byddwn yn:
- Ceisio ateb eich galwad mewn modd amserol
- Cynnig opsiynau a gwybodaeth amgen ar gyfer cael mynediad at wasanaethau yn ystod cyfnodau prysur
- Cynnig gwasanaethau yn Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill
Pan fyddwch yn ymweld â'n swyddfeydd cyhoeddus, byddwn yn:
- Darparu gofod hygyrch sydd ar agor yn ystod yr oriau a hysbysebir
- Darparu awyrgylch croesawgar, cyfeillgar a chymwynasgar
- Ceisio eich gweld o fewn 30 munud (os bydd rhaid i chi aros yn hirach, byddwn yn egluro pam)
Os byddwn yn ymweld â chi, byddwn yn:
- Cyrraedd erbyn yr amser y cytunwyd arno ar gyfer yr apwyntiad (oni bai bod rhywbeth yn ein dal yn ôl, ac os felly byddwn yn cysylltu â chi)
- Bod yn gymwynasgar, yn gwrtais ac yn eich trin â pharch ac urddas
Pan fyddwch yn siarad â'n staff, rydym yn disgwyl i chi:
- Fod yn gymwynasgar, yn gwrtais a'n trin â pharch ac urddas
- Deall y byddwn yn delio ag ymddygiad afresymol ac efallai y byddwn yn dod â'r sgwrs / ymweliad i ben, neu'n gweithredu ein Polisi Ymddygiad Cwsmer Afresymol os oes angen
Safonau gwasanaeth
Cais | Pan fyddwch yn cysylltu â'r Cyngor ynghylch: | Ymrwymiad y Cyngor i chi: | O fewn yr Amser Canlynol |
Budd-daliadau - Budd-dal Tai (BT) | Gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai neu'n dweud wrthym am newid yn amgylchiadau eich cartref a allai effeithio ar gais presennol | Os ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cyfrifo faint o BT y mae gennych hawl iddo ac yn dweud wrthych | 28 niwrnod gwaith |
Budd-daliadau - Gostyngiad Treth y Cyngor (GTC) | Gwneud cais newydd am GTC neu'n dweud wrthym am newid yn amgylchiadau eich cartref a allai effeithio ar gais presennol | Os ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cyfrifo faint o GTC y mae gennych hawl iddo ac yn dweud wrthych | 28 niwrnod gwaith |
Budd-daliadau - Budd-dal Tai (BT) a Gostyngiad Treth y Cyngor (GTC) | Ymholiad hawliau / taliadau / effaith bosibl newid mewn amgylchiadau ar fudd-daliadau / gofyn am gyngor, cymorth | Byddwn yn egluro ein penderfyniadau / cyfrifiadau a'r rheoliadau mewn ffordd glir a chryno. | 28 niwrnod gwaith |
Budd-daliadau- Prydau Ysgol am Ddim (PYDd) | Gwneud cais newydd am PYDd neu ddweud wrthym am newid yn amgylchiadau eich cartref a allai effeithio ar ddyfarniad PYDd presennol | Os ydych wedi darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ac rydym wedi gallu cael cadarnhad o'ch cymhwyster/diffyg cymhwyster gan yr Adran Gwaith a Phensiynau/CThEF, byddwn yn dweud wrthych os oes gennych hawl i PYDd. | 7 niwrnod gwaith (i dderbyn y cadarnhad) |
Torri rheolaeth gynllunio | Rhoi gwybod am waith lle nad oes gan eiddo ganiatâd cynllunio neu sydd wedi torri amod | Ymchwilio i'ch cwyn a'ch hysbysu o'r camau a gaiff eu cymryd | 12 wythnos |
Cais Rheoli Adeiladau | Cyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau ar gyfer rheoliadau adeiladu | Cofrestru eich cais | O fewn 3 diwrnod gwaith |
Arolygu gwaith adeiladu | Gofyn am Arolygiad | Cynnal arolygiadau tra bod y gwaith yn cael ei wneud a byddwn yn hapus i drafod rhaglen arolygu eich gwaith sy'n gweddu i chi. | Yr un diwrnod gwaith pan fo hynny'n bosibl, neu o fewn 24 awr i dderbyn y cais. Dyddiad yr arolygiad i'w drefnu. |
Mynwentydd
| Chwilio am fedd | Byddwn yn chwilio ym mynwentydd y Cyngor
| O fewn 5 niwrnod gwaith |
Amlosgfa | Ymholi am gynllun coffáu ar gyfer yr amlosgfa | Darparu gwybodaeth / costau a phrosesu'r cais | O fewn 5 niwrnod gwaith |
Cofrestryddion
| Ymholiad i gofrestru genedigaeth | Cynnig apwyntiad | O fewn 5 niwrnod gwaith |
Tir ac eiddo masnachol | Chwilio am eiddo a thir y Cyngor sydd ar werth neu brydles | Byddwn yn eich hysbysu o eiddo a thir y Cyngor sydd ar gael.
| Cysylltu drwy e-bost o fewn 5 niwrnod gwaith. Cysylltu dros y ffôn o fewn 2 ddiwrnod gwaith os nad oes modd ateb eich galwad ac rydych yn gadael neges yn gofyn i ni eich ffonio'n ôl
|
Agendâu pwyllgorau | Dod o hyd i wybodaeth am unrhyw gyfarfod, megis cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, Cynllunio etc.. | Byddwn yn cynghori ac yn eich helpu i chwilio am wybodaeth am eitemau yr adroddwyd arnynt i wahanol gyfarfodydd y Cyngor. | 5 niwrnod gwaith |
Cynghorwyr
| Dod o hyd i wybodaeth am unrhyw un o'n 75 o gynghorwyr. | Byddwn yn cynorthwyo ac yn cynghori gydag ymholiadau megis dod o hyd i'ch cynghorydd lleol neu aelod cabinet perthnasol ar gyfer maes gwasanaeth. | 3 diwrnod gwaith |
Cwynion | Gwneud cwyn am unrhyw wasanaeth | Byddwn yn ymchwilio i'r gŵyn ac yn ymateb i chi. Rydym yn cymryd cwynion o ddifri ac yn eu defnyddio fel cyfle i wella ein gwasanaethau. | Cwynion corfforaethol: Cam 1: 10 niwrnod gwaith Cam 2: 20 niwrnod gwaith Mae cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn Polisi penodol, defnyddiwch y ddolen |
Tir sy'n eiddo i'r Cyngor | Ymholiadau cyffredinol gan gynnwys perchnogaeth | Byddwn yn eich hysbysu os yw tir yn eiddo i'r Cyngor ac yn cadarnhau meysydd cyfrifoldeb | Cysylltu drwy e-bost o fewn 5 niwrnod gwaith. Cysylltu dros y ffôn o fewn 2 ddiwrnod gwaith os nad oes modd ateb eich galwad ac rydych yn gadael neges yn gofyn i ni eich ffonio'n ôl |
Treth y Cyngor | Adrodd am newid cyfeiriad / newid perchnogaeth neu feddiannaeth eiddo | Cymryd y manylion gennych a diweddaru'r systemau i allu cyflwyno'r bil cywir | 28 niwrnod gwaith |
Treth y Cyngor | Cais i dalu drwy ddebyd uniongyrchol | Cymryd y manylion gennych a sefydlu debyd uniongyrchol ar gyfer eich dewis chi o'r 4 dyddiad sydd ar gael | 28 niwrnod gwaith
|
Treth y Cyngor | Dweud wrthym am eich anawsterau wrth geisio talu bil | Byddwn yn gwrando ac yn gwneud ein gorau i gytuno ar gynllun talu sy'n rhesymol ac yn dderbyniol gan y ddwy ochr. Byddwn hefyd yn cynnig eich cyfeirio am gyngor ariannol annibynnol ac yn dweud wrthych am Ostyngiad Treth y Cyngor | 28 niwrnod gwaith
|
Treth y Cyngor | Gwneud taliad | Byddwn yn cymryd y taliad oddi wrthych yn brydlon | 3 diwrnod |
Adeiladau peryglus | Adrodd am adeilad peryglus.
| Byddwn yn ymateb o fewn 3 awr / 24 awr yn dibynnu ar ddifrifoldeb.
| Delio o fewn 3 awr â pheryglon sydd ar fin digwydd. Y diwrnod gwaith nesaf ar gyfer peryglon nad ydynt ar fin digwydd. |
Baw cŵn / sbwriel | Rhoi gwybod am leoliadau lle mae baw cŵn a / neu sbwriel yn creu perygl a / neu niwsans | Cael gwared ar y niwsans a / neu'r perygl | Perygl - erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf Niwsans - o fewn 5 niwrnod gwaith |
Addysg: Ymholiadau Cyffredinol | Gofyn unrhyw gwestiwn ynglŷn â darpariaeth addysg yn Abertawe | Rhoi ymateb clir a chryno a / neu fynegbostio at yr ysgol / proses berthnasol | 15 niwrnod gwaith |
Addysg: Grant Gwisg Ysgol (Grant Hanfodion Ysgol) | Llinell gymorth i gefnogi'r broses ymgeisio am grant ar-lein | Rhoi cymorth i hawlwyr sy'n cael trafferth gyda'r broses ymgeisio ar-lein | 15 niwrnod gwaith |
Addysg: Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (TADYCh) | Cysylltu ag aelod o'r Tîm TADYCh am wybodaeth, cyngor neu gymorth | Sicrhau ein bod yn cyhoeddi'r holl wybodaeth berthnasol ar ein gwefan | 15 niwrnod ysgol (yn ystod tymor yr ysgol) neu 28 niwrnod calendr (yn ystod gwyliau'r ysgol) |
Addysg: Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (TADYCh) | Ymholiadau cyffredinol i'r tîm | Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar ein gwefan. Ateb e-byst yn ymwneud â chwestiynau penodol Darparu gwasanaethau cyfyngedig dros y ffôn i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at y we neu e-bost | 15 niwrnod ysgol i ymateb i ymholiadau e-bost Bydd y llinell ffôn ar agor rhwng 10.00am a 12 ganol dydd a rhwng 2.00pm a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener |
Addysg: Derbyn i Ysgolion | Gwneud cais i newid ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol | Ysgrifennu atoch gyda chanlyniad eich cais yn unol â'n hamserlenni | 15 niwrnod ysgol (yn ystod tymor yr ysgol) neu 28 niwrnod calendr (yn ystod gwyliau'r ysgol) |
Gwneud cais am le mewn ysgol gan eich bod wedi symud i'r ardal | Ysgrifennu atoch gyda chanlyniad eich cais yn unol â'n hamserlenni | 15 niwrnod ysgol (yn ystod tymor yr ysgol) neu 28 niwrnod calendr (yn ystod gwyliau'r ysgol) | |
Gwneud cais am le mewn ysgol ar gyfer mynediad i ddosbarth derbyn neu flwyddyn 7 | Sicrhau ein bod yn cyhoeddi'r holl wybodaeth berthnasol ar ein gwefan ac yn ysgrifennu atoch yn uniongyrchol os ydych chi wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd gydag ysgol yn Abertawe |
| |
Ymholiadau cyffredinol am fynediad i ysgolion | Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar ein gwefan. Ateb e-byst yn ymwneud â chwestiynau penodol Darparu gwasanaethau cyfyngedig dros y ffôn i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at y we neu e-bost | 10 niwrnod gwaith i ymateb i ymholiadau e-byst Bydd y llinell ffôn ar agor rhwng 10.00am a 12 ganol dydd a rhwng 2.00pm a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) | |
Eiddo gwag | Rhoi gwybod am eiddo gwag sy'n agored i fynediad | Byddwn yn ymweld â'r eiddo, yn ceisio adnabod a chysylltu â'r perchennog a sicrhau bod yr eiddo yn cael ei ddiogelu os oes risg o fynediad heb awdurdod. | Ymweld â'r eiddo o fewn 2 ddiwrnod gwaith |
Ymholiadau neu gwynion yn ymwneud ag hylendid bwyd | Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth
| Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu'r cais am wasanaeth a chymryd camau priodol | Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law |
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth | Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth yn ysgrifenedig | Ar ôl i gais ysgrifenedig am wybodaeth wedi'i chofnodi ddod i law, bydd y Cyngor yn eich hysbysu a yw'r wybodaeth honno gan y Cyngor ai peidio. Byddwn yn darparu'r wybodaeth yn y ffordd y gofynnwyd amdani. | 20 niwrnod gwaith |
Grantiau a chyllid | Cael gwybod am opsiynau neu gyfleoedd cyllido grantiau | Helpu i'ch mynegbostio i'r ffynonellau cyllido mwyaf priodol | O fewn 28 niwrnod gwaith ar gyfer y cais cychwynnol |
Torri lleiniau glaswellt | Rhoi gwybod ble mae glaswellt hir yn atal gyrwyr rhag gweld yn iawn gan achosi perygl | Torri glaswellt yn ôl yr angen | O fewn 5 niwrnod gwaith |
Cyngor a chwynion Iechyd a Diogelwch | Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth
| Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu gais am wasanaeth a chymryd camau priodol | Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law |
Priffyrdd: Teithio Llesol | Ymholiadau cyffredinol | Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar ein gwefan. Ateb e-byst yn ymwneud â chwestiynau penodol. | Bydd swyddogion yn ymateb i'ch ymholiad, cwyn neu gais am wasanaeth o fewn 10 niwrnod gwaith iddo ddod i law |
Priffyrdd: Achos Brys | Rhoi gwybod am sefyllfa frys beryglus ar y Briffordd | Ymateb o fewn 4 awr / 24 awr yn dibynnu ar ddifrifoldeb. | |
Priffyrdd: Adduned Tyllau yn y Ffordd | Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd | Byddwn yn atgyweirio'r twll yn y ffordd os oes modd. | 48 awr i weithredu a 48 awr arall i ymateb pan ddarperir cyfeiriad e-bost. |
Cais am Wasanaeth Priffyrdd | Rhoi gwybod am geisiadau am waith neu wasanaeth arferol, rhew, cyflwr ffordd, llifogydd etc. | Cofnodi'r alwad, ymchwilio, cymryd y camau priodol. | Nid oes amser ymateb penodol ar gyfer diffygion nad ydynt yn peri risg diogelwch. Bydd rhaglenni gwaith arferol yn mynd i'r afael â'r rhain. |
Trwyddedu Tai Amlfeddiann-aeth | Gwneud cais am drwydded neu ofyn am amrywiad ar drwydded bresennol | Cofnodi'r cais a chysylltu â chi i gadarnhau manylion, cymryd taliad ac egluro'r camau nesaf. | O fewn 10 niwrnod gwaith i chi gyflwyno'ch cais. |
Safonau Tai | Rhoi gwybod am broblemau gyda chyflwr eich eiddo wedi'i rentu'n breifat | Cymryd y manylion gennych, gan gynnwys manylion eich landlord / asiant, rhoi cyngor i chi a threfnu archwiliad o'r eiddo, ar ôl cysylltu â'ch landlord / asiant. | Cysylltu â chi i drefnu archwiliad o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl eich adroddiad. |
Tai | Ymholiadau cyffredinol | Byddwn yn cyfeirio eich ymholiad at yr adran / tîm cywir
| Ymholiadau e-bost cyffredinol: cydnabyddiaeth gychwynnol o fewn 1 diwrnod gwaith ac ymateb llawn o fewn 10 niwrnod gwaith gan y tîm perthnasol. |
Tai | Cais am Dŷ | Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â'n Polisi Dyrannu Tai. | 30 niwrnod gwaith |
Tai | Gwneud cais Digartrefedd | Os ydych mewn perygl o ddigartrefedd, cysylltwch ag Opsiynau Tai a byddwn yn cymryd manylion cychwynnol gennych ac yn trefnu i weithiwr achos digartrefedd gysylltu â chi er mwyn cynnal asesiad. | Ar y diwrnod os byddwch yn ddigartref y noson honno.
10 niwrnod gwaith os ydych chi mewn perygl o ddigartrefedd |
Tai | Trafod eich cyfrif rhent | Byddwn yn cynnig cyngor a chymorth os ydych chi'n cael trafferth talu eich rhent, neu os oes gennych ymholiad ynglŷn â'ch cyfrif. | Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 niwrnod gwaith i drafod eich ymholiad |
Tai | Rhoi gwybod am waith atgyweirio | Byddwn yn ymateb i'ch cais ac yn delio â'ch gwaith atgyweirio. | Categorïau Atgyweirio: A - Atgyweiriadau mewn argyfwng - Ymweld a'i wneud yn ddiogel o fewn 24 awr. Gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael B - Atgyweiriadau brys - eu cwblhau o fewn 5 niwrnod gwaith C - Heb frys - eu cwblhau o fewn 20 diwrnod gwaith (efallai bydd angen eu harchwilio ymlaen llaw) D - Atgyweiriadau Arbenigol - eu cwblhau o fewn 80 diwrnod gwaith (efallai bydd angen eu harchwilio ymlaen llaw) Cynhelir archwiliadau ymlaen llaw drwy apwyntiad a drefnir gyda'r tenant Lleithder a llwydni - cynhelir archwiliad o fewn 5 diwrnod a'r gwaith sydd angen ei wneud o fewn 20 diwrnod gwaith |
Tai | Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor | Bydd naill ai'r Swyddfa Tai Rhanbarthol neu'r Uned Cefnogi Cymdogaethau yn ymateb i'ch cwyn gyntaf | Byddwn yn ymateb i'ch adroddiad cychwynnol o fewn 5 niwrnod gwaith os byddwch yn gadael enw a chyfeiriad. |
Tai | Gofyn am gymorth gan yr Uned Cefnogi Tenantiaid | Bydd yr Uned Cefnogi Tenantiaid yn rhoi cymorth a chyngor sy'n gysylltiedig â thai i berchnogion tai, tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cyngor a'r rhai sy'n rhentu o'r sector preifat. | Cynhelir asesiad cychwynnol o'r anghenion cymorth o fewn 5 niwrnod gwaith. |
Tai | Rhaglen Gwelliannau Mawr i Dai Cyngor
| Rhoi cyngor ac arweiniad i denantiaid eiddo'r cyngor ynghylch gwaith atgyweirio a gwella mawr sy'n cael ei wneud neu ei gynnig yn y dyfodol | Bydd e-bost yn cael ei ateb o fewn 5 niwrnod gwaith |
Tai |
Adnewyddu - holi am grantiau a benthyciadau ar gyfer e.e. addasiadau i Dai Cyngor, Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a gwaith atgyweirio e.e. Benthyciad HomeFix a benthyciadau gan Lywodraeth Cymru | Rhoi cyngor a chymorth cychwynnol ynghylch y mathau o gymorth sydd ar gael a mynegbostio i'r gwasanaeth mwyaf addas. Cynorthwyo'r cleient i wneud cais am y math hwnnw o gymorth. | Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 10 niwrnod gwaith i gwblhau ymholiad cychwynnol ar gyfer grantiau tai / cymorth benthyciadau. |
Chwiliadau tir | Gwneud cais am chwiliad CON29 Awdurdodau Lleol, am gopïau dogfennau, gwneud taliadau ac ymholiadau ynglŷn â chwiliadau | Rydym yn cynnal chwiliadau tir lleol sy'n rhan o'r broses trawsgludo eiddo. Mae'n caniatáu i ddarpar brynwyr eiddo a benthycwyr morgeisi ddod o hyd i'r wybodaeth sydd gennym mewn perthynas ag eiddo. | 10 niwrnod gwaith |
Trwyddedu | Cyflwyno cais wedi'i gwblhau ar gyfer trwydded ---------------------- Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth
| Cofnodi'r cais a'i brosesu yn unol â gofynion statudol ----------------------------- Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu'r cais am wasanaeth a chymryd camau priodol | Bydd ceisiadau'n cael eu prosesu yn unol ag amserlenni statudol lle bo hynny'n berthnasol ------------------- Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law |
Biniau sbwriel/cŵn | Rhoi gwybod am leoliadau lle mae biniau baw cŵn / sbwriel yn gorlifo ac yn creu perygl a / neu niwsans | Cael gwared ar y niwsans a'r / neu'r perygl | Perygl - erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf Niwsans - o fewn 5 niwrnod gwaith |
Cynllun Datblygu Lleol | Deall, gofyn cwestiynau ynghylch Cynllun Datblygu lleol Abertawe a chymryd rhan yn y gwaith o'i gynhyrchu | Rhoi cyngor a chyfle clir, cyson i'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol er mwyn iddynt fod yn gyfranogwyr gweithredol yn y broses CDLl yn unol â'r Cynllun Cyfraniad Cymunedol y cytunwyd arno | Ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith |
Niwsans sŵn a Llygredd | Rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â sŵn, dŵr, llygredd tir neu aer | Cymryd y manylion gennych ac ymchwilio a chymryd y camau priodol | Bydd swyddog yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth, lle bo angen o fewn 5 niwrnod gwaith. |
Apêl tocyn parcio | Pan fyddwch yn gwneud sylwadau yn ysgrifenedig yn apelio yn erbyn derbyn Hysbysiad o Dâl Cosb | Ystyried eich rhesymau dros apelio yn erbyn y Tocyn Parcio a gwneud penderfyniad i naill ai gynnal neu wrthod y sylwadau hyn. | Apêl Cyn Hysbysiad i'r Perchennog - ymateb yn ysgrifenedig o fewn 6 mis. Apêl ar ôl Hysbysiad i'r Perchennog - ymateb yn ysgrifenedig o fewn 56 diwrnod |
Pasbort i Hamdden (PIH) | Gwneud cais newydd am PIH neu ddweud wrthym am newid yn amgylchiadau eich cartref a allai effeithio ar PIH yr ydych eisoes yn ei ddal | Os ydych chi wedi darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn penderfynu a oes gennych hawl i PIH ac yn dweud wrthych | 28 niwrnod gwaith |
Creu Lleoedd a Threftadaeth | Cael cyngor neu wybodaeth yn ymwneud â chreu lleoedd a threftadaeth yn Abertawe, gan gynnwys ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth ac Asedau Gwarchodedig Treftadaeth megis Adeiladau Rhestredig | Rhoi cyngor a gwybodaeth glir a chyson | Ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith |
Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio | Egluro sut y mae'r gwasanaeth Cyn Ymgeisio yn gweithio, gan gynnwys y gwahanol fathau o Gyn ymgeisio a gwneud Taliadau | Rhoi cyngor clir a chryno ar ddichonoldeb y cynigion a gyflwynwyd
| 1. Gwasanaeth cyngor Statudol - o fewn 21 diwrnod i gyflwyno cais dilys 2. Gwasanaeth cyngor Anstatudol - o fewn 28 niwrnod i gyflwyno cais dilys neu fel y cytunwyd ar gyfer cynlluniau mwy o faint. |
Ceisiadau cynllunio | Egluro sut y mae'r broses ceisiadau cynllunio yn gweithio, diweddariadau ar geisiadau cynllunio, gofyn am ffurflenni cais a thalu ffioedd cynllunio | Prosesu cymaint o geisiadau â phosibl o fewn targedau Statudol, cymeradwyo datblygiadau a aseswyd yn erbyn polisïau cynllunio cyfredol sy'n dwyn manteision cymdeithasol ac economaidd i bob preswylydd a chymuned yn Abertawe | 56 diwrnod (ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau) |
Lleoedd Chwarae - peryglus | Rhoi gwybod am leoedd chwarae lle credir bod peryglon yn bodoli | Cael gwared â'r hyn sy'n achosi'r perygl | Perygl - cyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf |
Rheoli Plâu
| Os oes gennych broblem gyda phlâu megis llygod, llygod mawr, chwain a gwenyn meirch, gallwch drefnu ymweliad gan y tîm rheoli plâu drwy gwblhau'r ffurflen ymholiad ar-lein. | Trefnu ymweliad gan swyddog rheoli plâu ar ôl derbyn taliad y ffi berthnasol, oherwydd codir tâl am y rhan fwyaf o'n gwasanaethau. | Oherwydd nifer y galwadau y mae'r gwasanaeth rheoli plâu yn ei dderbyn, gall gymryd hyd at 10 niwrnod gwaith o ddyddiad yr ymholiad i drefnu ymweliad |
Iechyd Porthladd
| Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth
| Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu'r cais am wasanaeth a chymryd camau priodol | Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law |
Cofrestru i bleidleisio / Etholiadau / Pleidleisio | Holi am swyddi gwag, a sefyll mewn etholiad | Byddwn yn rhoi cyngor i chi yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol | Byddwn yn dilyn amserlenni statudol yn ystod cyfnod yr etholiad, fel arall byddwn yn ymateb o fewn 5 niwrnod gwaith |
Holi am etholiadau yn eich ardal a sut a ble i bleidleisio | Byddwn yn eich hysbysu o'r drefn gywir a ble a phryd i bleidleisio | O fewn 3 diwrnod gwaith | |
Rhoi gwybod am newid enw, cyfeiriad, ychwanegu neu dynnu etholwr o'ch eiddo | Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau'r newid | O fewn 28 niwrnod | |
Holi am eich manylion cofrestru | Byddwn yn cadarnhau eich statws cofrestru | O fewn 3 diwrnod gwaith | |
Ymholiadau cyffredinol am fynediad i ysgolion | Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar ein gwefan. Ateb e-byst yn ymwneud â chwestiynau penodol. Darparu gwasanaethau cyfyngedig dros y ffôn i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at y we neu e-bost | 10 niwrnod gwaith i ymateb i ymholiadau e-byst Bydd y llinell ffôn ar agor rhwng 10.00am a 12 ganol dydd a rhwng 2.00pm a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) | |
Talu am Ofal Cymdeithasol i Oedolion - Gofal Preswyl | Gwneud cais newydd am help tuag at gostau Gofal Cymdeithasol Preswyl neu ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar gais presennol. | Os ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cyfrifo faint o gymorth y mae gennych hawl iddo ac yn egluro sut yr ydym wedi dod i'n penderfyniad.
| 28 niwrnod gwaith |
Talu am Ofal Cymdeithasol i Oedolion - Gofal Dibreswyl | Gwneud cais newydd am help tuag at gostau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl neu ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar gais presennol. | Os ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cyfrifo faint o gymorth y mae gennych hawl iddo ac yn egluro sut yr ydym wedi dod i'n penderfyniad.
| 28 niwrnod gwaith
|
Gofal Cymdeithasol - Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) | Cael gwybodaeth am ofal plant a chyllid gofal plant. Ceisio arweiniad/cyngor ar eich cyfer chi a'ch teulu ifanc ar unrhyw bwnc | I ddarparu gwybodaeth am ofal plant cofrestredig yn Abertawe. Gwybodaeth i helpu gyda chost gofal plant. Arweiniad a chyfeirio at unrhyw wasanaeth arall a all effeithio arnoch chi a'ch teulu ifanc. | Dydd Llun- dydd Iau 9am - 5pm Dydd Gwener 9am - 4.30pm. Yn ystod diwrnod gwaith ymateb 24-awr. |
Gofal Cymdeithasol - Ariannu Taliadau Uniongyrchol | Holi ochr Ariannol Taliadau Uniongyrchol
| Bydd y Gyfarwyddiaeth Gyllid yn gwneud taliadau fel y cyfarwyddir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn seiliedig ar gynllun cymorth y cleient. | 28 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cyfarwyddyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol |
Gofal Cymdeithasol - Taliadau Gofal plant | Holi ochr Ariannol Taliadau Gofal Plant gan gynnwys Maethu, Gwarcheidiaethau Arbennig a Mabwysiadu | Bydd y Gyfarwyddiaeth Gyllid yn gwneud taliadau fel y cyfarwyddir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn seiliedig ar gynllun cymorth y cleient. | 28 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cyfarwyddyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol |
Talu am Ofal Cymdeithasol i Oedolion - | Gwneud taliad | Byddwn yn cymryd y taliad oddi wrthych yn brydlon | 3 diwrnod |
Gofal Cymdeithasol i Oedolion
| Gwybodaeth, cyngor neu gymorth Rhoi gwybod am bryder diogelu | Byddwn yn gweithio gyda chi i fyw'n dda ac yn ddiogel yn ein cymuned | Byddwn yn ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith dros y ffôn neu drwy e-bost.
|
Gwasanaethau Cymdeithasol | Gwneud sylw neu gŵyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol neu eu canmol
| Pan fydd pethau'n mynd o'i le ac mae defnyddiwr gwasanaeth, neu rywun sy'n pryderu digon am eu lles, am wneud cwyn, mae'r gyfraith yn dweud bod gennych hawl i leisio'ch barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol | Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cwyn o fewn 10 niwrnod gwaith. Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 5 niwrnod gwaith i'r dyddiad penderfynu, gan gadarnhau'r canlyniad. |
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd | Gofyn am wybodaeth, cyngor neu gymorth neu roi gwybod am bryder diogelu | Gallwn helpu teuluoedd i gael cymorth gan y bobl iawn ar yr adeg iawn i fyw bywydau hapus, iach a diogel | Byddwn yn ymateb o fewn 48 awr dros y ffôn neu drwy e-bost |
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd | Sut i ddod yn ofalwr maeth | Rydym yn darparu cymorth pwrpasol ar eich taith faethu, o hyfforddiant arbenigol i lwfansau ariannol, felly dydych chi byth ar eich pen eich hun | Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad cychwynnol o fewn 24 awr |
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd | Sut i ddod yn rhiant sy'n mabwysiadu | Mae Gwasanaethau Mabwysiadu Bae'r Gorllewin yn cynnig cymorth nid yn unig i fabwysiadwyr sy'n mynd drwy'r asesiad ond hefyd i bobl ifanc mabwysiedig y mae mabwysiadu yn effeithio arnynt | Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad cychwynnol o fewn 5 niwrnod gwaith |
Cŵn Strae | Rhoi gwybod am gi sy'n crwydro'n rhydd yn eich ardal neu gysylltu â ni i weld a yw eich ci wedi'i godi gan y Warden Anifeiliaid | Byddwn yn cymryd y manylion gennych ac yn ceisio casglu ci sy'n crwydro'n rhydd neu'n gwirio ein cofrestr i gadarnhau a yw eich ci strae wedi'i godi. Byddwn yn cymryd y ffi rhyddhau gennych chi ac yn esbonio sut y gallwch gasglu eich ci sydd wedi'i ffaldio. | Byddwn yn ymateb o fewn 1 diwrnod gwaith |
Safonau Masnach | Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth | Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu'r cais am wasanaeth a chymryd camau priodol | Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law |
Coed - peryglus | Rhoi gwybod am goed yr ystyrir eu bod yn achosi perygl | Cael gwared ar y perygl | Perygl Dybryd - erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf Perygl nad yw'n ddybryd - o fewn 5 niwrnod gwaith |
Gwastraff ac ailgylchu: Casgliadau sbwriel â chymorth | Pan na fydd holl breswylwyr eiddo yn gallu gosod eu sbwriel allan i'w gasglu oherwydd anabledd neu eiddilwch | Bydd ein tîm sbwriel yn cael ei hysbysu a byddant yn cytuno ar le diogel ar y safle i gasglu'r bagiau / biniau | Ar ddiwrnod arferol casglu eich biniau, (Llun-Gwener) |
Casgliadau Sbwriel a gollwyd | Rhoi gwybod nad yw eich sbwriel, a osodwyd yn gywir ac ar amser, wedi'i gasglu ar y diwrnod casglu cywir, gan roi eich manylion cyswllt | Os y gwnaethoch osod eich sbwriel yn gywir ac ar amser, bydd ein Tîm Sbwriel yn dychwelyd i'w gasglu | O fewn 5 niwrnod gwaith |