Sefydliadau sy'n darparu cyngor a gwybodaeth ar fudd-daliadau
Mae gwerth biliynau o fudd-daliadau prawf modd heb eu hawlio bob blwyddyn. Gall deall yr hyn y mae hawl gennych ei gael a chyflwyno cais ymddangos yn gymhleth, ond mae sefydliadau sy'n gallu'ch helpu.
I gael trosolwg defnyddiol o'r gwahanol fudd-daliadau sydd ar gael, pwy all eu hawlio a sut i wneud cais gallwch ymweld â thudalennau Budd-daliadau gwefan Gov.uk (Yn agor ffenestr newydd).
Os oes gennych weithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal, gallant roi cyngor i chi ar y budd-daliadau y dylech fod yn eu hawlio, ac efallai gallant eich helpu i lenwi'r ffurflenni.
Gall nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol hefyd helpu gyda chyngor ar fudd-daliadau beth bynnag fo'ch amgylchiadau.
Cofrestrwch nawr i gael cymorth a chyngor am ddim.
Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.
Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.
Cyngor cyfrinachol am ddim ac offer i helpu pobl i ddeall a rheoli eu harian.
Cyngor ar ddyled yn rhad ac am ddim ar-lein neu dros y ffon. Hefyd yn cynnig cyngor ar arian.
Help i deuluoedd sydd â phlant ag anableddau.
Mae gwasanaeth BAYS+ Barnado's a'r Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc 16 i 21 oed sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref gyda chyngor cyffredinol, tai, gwahaniaethu a budd-daliadau.
Eich helpu i ddeall, rheoli a gwella'ch iechyd meddwl a'ch problemau ariannol.
Yn darparu help i rieni plant ag anghenion arbennig / anableddau i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt.
Cyngor am ddim ar ddyled ar-lein neu dros y ffon.
Os ydych chi neu rywun sy'n annwyl i chi wedi cael diagnosis o ganser, gall Maggie's Abertawe helpu.
Gwefan yw MoneySavingExpert.com sy'n ymroddedig i leihau eich biliau a brwydro ar eich rhan drwy ymchwil newyddiadurol ac offer ar-lein.
Help ar-lein am ddim a thros y ffon.
Mae Shelter Cymru yn darparu cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim ar dai a dyled.
Yn darparu addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl o bob oedran er mwyn eu helpu i reoli eu harian yn well a gwella'u lles ariannol.
Mae Turn2Us yn elusen genedlaethol sy'n helpu pobl mewn caledi ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth - ar-lein, dros y ffon.
Rydym yn helpu unrhyw un, mewn unrhyw le yn y DU ac o gwmpas y byd, i gael cefnogaeth os bydd argyfwng.
Addaswyd diwethaf ar 13 Gorffenaf 2022