Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Grantiau'n cefnogi grwpiau i fynd i'r afael â thlodi bwyd

Cefnogwyd elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd yn Abertawe yn uniongyrchol gyda bron £200,000 gan y cyngor y llynedd.

Alyson Pugh and Alfred Oyekoya of BMHS

Alyson Pugh and Alfred Oyekoya of BMHS

Gwnaeth mwy o sefydliadau nag erioed gais am gymorth drwy Gronfa Tlodi Bwyd Cyngor Abertawe.

Ymhlith y rheini a gyflwynodd cynigion llwyddiannus roedd banciau bwyd, prosiectau tyfu bwyd cymunedol, cefnogaeth mewn argyfwng fel Matthew's House a chynlluniau i helpu preswylwyr i wella'u sgiliau coginio a'u gwybodaeth am faeth.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymunedau Gwell, Alyson Pugh, "Yn Abertawe rydym yn ffodus iawn bod gennym rai sefydliadau elusennol, gwirfoddol ac nid er elw anhygoel yn gweithio'n galed i helpu pobl sy'n wynebu tlodi bwyd.

"Mae rhwydwaith o fanciau bwyd y bu galw mwy nag erioed o'r blaen am eu gwasanaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae hefyd gynlluniau gwych ar gael sy'n cefnogi mentrau bwyd cymunedol gan weithio i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd.

"Rwy'n falch iawn, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, fod Cyngor Abertawe wedi gallu cefnogi'r gwaith hanfodol y mae'r grwpiau hyn yn ei wneud."

Rhoddodd y cyngor £105,000 i 22 grŵp yn y rownd gyntaf o grantiau yn gynharach y llynedd ac £88,500 arall i 17 o grwpiau yn dilyn ail rownd o geisiadau.

Gwahoddwyd ceisiadau am gyllid cyfalaf a refeniw.

Mae'r sefydliadau a oedd yn llwyddiannus yn yr ail rownd yn cynnwys elusen BMHS, Banc Bwyd HOP, Ymddiriedolaeth Exousia, Partneriaeth Pontarddulais, Cyngor Hil Cymru, Fferm Gymunedol Abertawe a Cymorth i Fenywod Abertawe.

Meddai Alfred Oyekoya o BMHS, "Mae ein helusen yn ddiolchgar iawn i Gyngor Abertawe am ei gefnogaeth ac aeth rhai o'n buddiolwyr i gwrdd â'r Cynghorydd Pugh i fynegi eu diolch yn uniongyrchol.

"Rydyn ni'n gwybod y byddai rhai o'n haelodau cymunedol anodd eu cyrraedd wedi cael eu gadael ar ôl heb y Cyllid Tlodi Bwyd."

Close Dewis iaith